Adnewyddu


Cymorth a chyngor os ydych chi’n adnewyddu’ch eiddo, neu’n rhannu neu’n cyfuno eiddo lluosog.

Adnewyddu’ch eiddo

Mae ein taliadau'n parhau i fod yn daladwy hyd yn oed os ydych yn adnewyddu eich eiddo, ac nad ydych yn credu y byddwch yn defnyddio dŵr. Mae hyn oherwydd bod y cyflenwad yn dal ar gael yn yr eiddo, er enghraifft, yn yr ystafell ymolchi / cegin neu'r dŵr a ddefnyddir fel rhan o'r broses adnewyddu.

Beth yw’ch opsiynau?

1. Parhau i dalu’ch bil fel arfer
Os yw eich eiddo yn cael biliau mesuredig, yna byddwch ond yn talu am y dŵr y byddwch yn ei ddefnyddio ynghyd â thaliadau cysylltiedig eraill.

2. Gofyn i’ch dŵr gael ei ddatgysylltu dros dro
Os yw’r dŵr yn eich eiddo’n cael ei ddatgysylltu dros dro, ni fyddwch chi’n gallu defnyddio unrhyw ddŵr o gwbl; mae hyn yn cynnwys fflysio’r toiled. Sylwch efallai y codir tâl arnoch chi am Ddraenio Dŵr Wyneb yn ystod cyfnod datgysylltu dros dro, ac mae ffi ailgysylltu sy'n daladwy pan fydd eich cyflenwad yn cael ei ailgysylltu.

3. Gofyn i’ch dŵr gael ei ddatgysylltu’n barhaol
Yn yr un modd â datgysylltu dros dro, os yw’r dŵr mewn eiddo yn cael ei ddatgysylltu’n barhaol, ni fyddwch chi’n gallu defnyddio unrhyw ddŵr o gwbl. Ni chodir tâl i ddatgysylltu dŵr yn barhaol, ond mae rhaid i ni gael y cais yn ysgrifenedig (naill ai mewn llythyr neu e-bost). Pe byddech chi am ailgysylltu’r eiddo yn ddiweddarach, byddai hyn yn cael ei drin fel cysylltiad o’r newydd, a bydd y ffioedd perthnasol yn cael eu codi bryd hynny. Ni allwn warantu y bydd y taliadau hyn yn aros yr un fath ag y maent ar hyn o bryd. Sylwch y gallai cyflenwad wedi’i ddatgysylltu effeithio ar werth eich eiddo.

4. Gofyn am fesurydd dŵr (os nad oes un gyda chi’n barod)
Nid oes rhaid i chi dalu i gael mesurydd dŵr, ac fel arfer, mae mesurwyr yn cael eu gosod o fewn tri mis. Byddai rhaid i chi barhau i dalu’ch taliadau anfesuredig nes y bydd y mesurydd yn cael ei osod, ond ar ôl i’r mesurydd gael ei osod, byddech chi ond yn talu am y dŵr rydych chi’n ei ddefnyddio.