Rhaglen Ymchwilio i Gemegolion


Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn gweithio i amddiffyn afonydd a dyfrffyrdd trwy drin y dŵr gwastraff sy’n dod o'n cartrefi a'n busnesau, a'i ddychwelyd yn ddiogel i'r amgylchedd.

Un rhan o'r broses yma yw canfod pa sylweddau cemegol sy'n mynd i'n rhwydwaith, ac astudio eu heffaith ar yr amgylchedd a chanfod sut y gallwn gael gwared arnynt. Mae'r cemegolion hyn yn cynnwys metelau, cemegolion diwydiannol fel arafyddion tân, bioladdwyr a chynhyrchion fferyllol. Er mwyn cyflawni hyn yn effeithiol, mae Dŵr Cymru, ynghyd â chwmnïau dŵr gwastraff a charthffosiaeth eraill yng Nghymru a Lloegr, yn cymryd rhan yn y Rhaglen Ymchwilio i Gemegolion (CIP) sy'n cael ei gweinyddu gan UKWIR*. Yn rhan o'r rhaglen CIP Cenedlaethol, mae Dŵr Cymru’n cyflawni gwaith manwl i fonitro cemegolion mewn 15 o weithfeydd trin carthffosiaeth, yn ein rhwydwaith o garthffosydd ac mewn lleoliadau ar hyd afonydd’.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am beth mae CIP wedi ei ddarganfod hyd yn hyn, ac amcanion y rhaglen ar dudalennau Ymchwil UKWIR.

*Corff a sefydlwyd ym 1993 gan ddiwydiant dŵr y DU yw UKWIR, a'i bwrpas yw darparu fframwaith i gaffael rhaglen ymchwil gyffredin ar gyfer gweithredwyr dŵr yn y DU ar faterion 'un llais'.