Cyngor i Fyfyrwyr
Er mwyn helpu i'w gwneud yn haws i chi ymgartrefu yn eich llety newydd, rydym ni wedi paratoi cyngor ar yr hyn y dylech chi ei wneud pan fyddwch yn symud tŷ a phryd y mae angen i chi dalu.
Pryd y dylech chi roi gwybod i ni eich bod chi wedi symud
Nid yw symud tŷ pan fyddwch yn fyfyriwr yn wahanol i unrhyw un arall. Gallwch chi weld pryd y mae angen i chi roi gwybod i ni eich bod wedi symud yma. Gallwch chi hefyd lenwi ein ffurflen rwydd ar-lein i ddweud wrthym eich bod yn symud i mewn neu allan o eiddo a hefyd os ydych yn symud i eiddo arall mewn ardal yr ydym yn ei gwasanaethu.
Pryd byddwch chi’n cael bil
Caiff myfyrwyr eu bilio am yr amser y maent yn ei dreulio fel tenantiaid eiddo. Er enghraifft, os byddwch chi’n llofnodi cytundeb tenantiaeth o 1 Gorffennaf ymlaen, byddwn ni’n eich bilio o 1 Gorffennaf ymlaen.
Bydd y ffordd y byddwn yn eich bilio yn amrywio rhwng eiddo lle mae mesurydd ac eiddo lle nad oes mesurydd:
- Eiddo â mesurydd: byddwn ni’n eich bilio ar sail y dŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, wedi ei fesur mewn metrau ciwbig, plws tâl sefydlog ar sail maint y mesurydd yn yr eiddo. Cliciwch ar y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am ein taliadau â mesurydd. Os na fyddwch yn defnyddio unrhyw ddŵr, cewch eich bilio am y taliadau sefydlog yn unig.
- Eiddo heb fesurydd: byddwn ni’n eich bilio o’r dyddiad y mae eich tenantiaeth yn cychwyn tan 31 Mawrth. Wedyn, byddwn yn cyhoeddi bil newydd a fydd yn amlinellu’ch taliadau ar gyfer y 12 mis o 1 Ebrill ymlaen, a byddwch yn gyfrifol am dalu hwnnw nes eich bod yn symud allan
Efallai y byddwch yn cael bil o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol ond eich bod chi’n bwriadu symud allan ym mis Gorffennaf. Peidiwch â phoeni, os talwch y bil yn llawn, pan fydd eich cyfrif yn cael ei gau, gellir trosglwyddo’r credyd i’ch cyfrif newydd neu ei ad-dalu ichi drwy gyfrwng siec. Os byddwch yn talu ar drefniant, yna bydd angen ichi barhau i dalu fel arfer a rhoi gwybod inni pan fyddwch yn symud allan fel y gallwn atal y taliadau.
HyperJar
Mae HyperJar yn ffordd ddelfrydol o gynllunio a rhannu cost eich bil dŵr gyda phobl eraill. Dyma sut i ddefnyddio HyperJar:
- Gallwch agor Shared Jars er mwyn i chi fel grŵp rannu eich gwariant yn ddi-drafferth, yn cynnwys trefnu’ch biliau.
- Gallwch greu Jar ar gyfer unrhyw eitem, wasanaeth neu ddigwyddiad rydych yn cadw arian ar ei gyfer. Mae pob Jar yn fini-gyfrif ar wahân, a gallwch wario arian yn uniongyrchol o unrhyw Jar â’ch cerdyn HyperJar.
A pheidiwch â phoeni, ni fydd y ffaith eich bod yn rhannu Jar yn effeithio ar eich sgôr credyd – yn wir ni fydd dim a wnewch yn HyperJar yn gwneud hynny. Gallwch ddefnyddio’ch cerdyn HyperJar yn unrhyw le, gan gynnwys dramor heb unrhyw ffioedd.
Cwestiynau Cyffredin
Pwy sydd i fod yn gyfrifol am y bil?
Os mai chi sy’n gyfrifol am dalu’r bil yn ôl eich cytundeb tenantiaeth, yna gall unrhyw ddau denant fod yn brif enwau ar y cyfrif. Gall tenantiaid eraill sy’n byw yno gael eu nodi ar y cyfrif a chael awdurdod i wneud newidiadau.
Os cawn yr wybodaeth gan y landlord, ychwanegir y ddau enw cyntaf a ddarperir at y cyfrif.
A ydych chi’n cynnig cyfradd ddisgownt i fyfyrwyr?
Nac ydym. Nid oes disgownt na thariff myfyrwyr ar gael.
A oes angen cyfrif arnaf i os ydw i’n byw mewn Neuadd Breswyl?
Nac oes. Os ydych chi’n byw mewn Neuadd Breswyl, yna bydd eich trethi dŵr yn cael eu cynnwys gyda’ch rhent.
A ydw i’n dal i dalu fy mil y tu allan i’r tymor academaidd? E.e. Yn ystod yr haf, y Nadolig ac ati
Ydych. Caiff eich cyfrif ei agor ar ddyddiad eich tenantiaeth (ar 1 Gorffennaf fel arfer) ac rydych yn gyfrifol amdano hyd at ddiwedd eich tenantiaeth.
Rydym ni’n aros yn yr un tŷ y flwyddyn nesaf, a oes angen imi symud allan beth bynnag ar ddiwedd y flwyddyn hon?
Nac oes. Os ydych chi’n aros yn yr eiddo ar draws blynyddoedd academaidd, yna nid oes angen ichi roi gwybod inni. Parhewch â’ch cyfrif a rhowch wybod inni pan fyddwch yn symud.
Beth sy’n digwydd os byddwn yn symud cyn diwedd y flwyddyn?
Os byddwch yn symud cyn i’ch blwyddyn academaidd ddod i ben, yna rhowch wybod inni gan ddefnyddio ein ffurflen symud.