Y gwirionedd am weips
Mae llawer o weips wedi’u gwneud o blastig, sy’n golygu nad ydyn nhw'n datgymalu fel papur tŷ bach. Mae un weip yn ddigon i achosi rhwystr annymunol a allai arwain at garthion yn llifo yn ôl i mewn i’ch cartref. Gall fod yn ofidus iawn ac mae hefyd yn gostus i’w drwsio. Ac os na fydd yn digwydd i’ch pibellau chi, gallai ddigwydd i’ch cymydog ymhellach i lawr y lein.
Rydym yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n cael eu hachosi gan gamddefnyddio’r carthffosydd a gyda’n gilydd gallwn stopio’r bloc.
Oriel y Dihirod
Stopio'r bloc
yn yr ystafell ymolchi
- Dim ond y 3P y dylech eu fflysio! Taflwch yr holl weips, eitemau mislif, ffyn cotwm a chewynnau yn y bin
- Edrychwch i weld a yw eich cyngor lleol yn darparu gwasanaeth casglu cewynnau
- Rhowch gynnig ar ddefnyddio cynhyrchion di-blastig neu rai y gallwch eu hailddefnyddio i leihau eich gwastraff a helpu’r blaned
Stopio'r bloc
yn y gegin
- I osgoi rhwystrau braster a chadw’r draeniau a’r carthffosydd yn glir, sychwch ein padelli ffrio ac eitemau eraill â phapur cegin cyn eu golchi, a thaflu’r papur cegin yn y bin
- Defnyddiwch hidlwr basn i ddal unrhyw ddarnau o fwyd sydd dros ben cyn iddynt fynd i lawr y twll
- Arhoswch i olewau oeri, a chrafwch nhw i mewn i gynhwysydd i’w gwaredu neu eu hailgylchu
Stopio'r bloc
yn y gweithle
- Bydd problemau draenio yn eich busnes yn effeithio ar eich cwsmeriaid yn ogystal ag arnoch chi
- Gall ein tîm gynnal arolwg pwrpasol o’ch cegin, am ddim i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau’r diwydiant
Sut mae blocio carthffosydd yn effeithio ar yr amgylchedd lleol...
Cwestiynau Cyffredin
‘Fine to Flush’ yw’r unig safon swyddogol sy’n nodi pa weips y gellir eu fflysio i lawr y toiled yn ddiogel. Er hyn, byddai’n well gennym pe na byddech yn fflysio unrhyw weips. Dyma’r unig ffordd sicr o wneud yn siŵr na fydd eich weip yn achosi trafferth yn y garthffos!
Mae pob tebygolrwydd, os nad ydych chi’n cael unrhyw broblem, bod eich cymdogion neu eich cymuned ymhellach i lawr yn cael trafferthion. Efallai fod eich weips yn blocio draeniau eich cymdogion ac yn achosi problemau iddynt – hyd yn oed os ydyn nhw’n gwneud y peth iawn ac yn rhoi eu weips yn y bin.
Gallwn. Nid yw’n rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud. Ond os fydd pobl yn parhau i fflysio weips pan rydym wedi gofyn iddynt beidio â gwneud, gallwn ailgodi y gost o glirio’r rhwystrau yn y garthffos.
Gallwch ein helpu ni yn y frwydr yn erbyn weips. Lawrlwythwch ein cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i’w ddefnyddio ar eich sianeli eich hun, neu lawrlwythwch ein posteri i’w harddangos yn eich ffenest.