Eich cais am fesurydd dŵr
Diolch am gyflwyno cais am fesurydd. Rydym yn derbyn llawer iawn o geisiadau am fesurydd ar hyn o bryd felly efallai y bydd yn cymryd mwy o amser nag arfer i ni gysylltu â chi.
Peidiwch â phoeni, nid oes angen cysylltu â ni eto, dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais:
Byddwch yn cael tâl gostyngol
Rydym yn y broses o gymhwyso tâl gostyngol o ddyddiad y cais i'r holl gwsmeriaid sydd wedi gwneud cais ac sy'n aros am eu hapwyntiad arolwg. Byddwn yn ysgrifennu atoch i’w gadarnhau pan fydd wedi ei drefnu.
Cael apwyntiad arolwg mesurydd
Os nad ydych wedi cael dyddiad ar gyfer gosod mesurydd eto, byddwch yn derbyn galwad gan rif 0330 pan fyddwn yn ceisio trefnu apwyntiad gyda chi. Os na allwn gysylltu â chi, byddwn yn anfon neges destun atoch gyda'ch apwyntiad arolwg mesurydd. Os nad yw'r dyddiad hwn yn addas i chi, ffoniwch ni yn ôl i aildrefnu eich apwyntiad.
Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod?
Ar ddiwrnod eich apwyntiad bydd ein syrfewyr yn asesu a allwn osod mesurydd yn yr eiddo. Ein polisi yw gosod ein mesuryddion yn allanol, ond lle nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd angen i ni asesu a allwn osod un yn fewnol yn lle hynny. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar y diwrnod os yw hyn yn wir.
Beth fydd yn digwydd ar ôl yr apwyntiad?
Os ydym wedi gosod mesurydd, byddwn yn diweddaru eich cyfrif, yn cadarnhau eich bod bellach yn cael eich bilio ar y mesurydd ac yn newid eich trefniant talu i adlewyrchu bilio mesuredig. Os nad ydym wedi gallu gosod mesurydd, byddwch yn aros ar y tâl gostyngol a gymhwyswyd gennym yn ystod eich proses o wneud cais.