Ynglŷn â'ch mesurydd dŵr
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch os oes gennych fesurydd dŵr wedi'i osod yn eich eiddo.
Eich taliadau
mesurydd dŵr
Sut rydym yn cyfrifo eich bil, y byddwch yn ei dderbyn bob 6 mis. Yma, rydym yn rhoi manylion y bil fel eich bod yn gwybod beth y codir tâl amdano, a beth sydd angen i chi ei wneud.
Beth sydd angen i chi ei wybod
Byddwch yn derbyn bil bob chwe mis pan fyddwn yn darllen y mesuryddion yn eich ardal. Byddwn yn ceisio bilio ar sail darlleniad gwirioneddol ond os na allwn ddarllen y mesurydd, byddwn yn anfon bil wedi’i amcangyfrif.
Rhaid talu eich bil mewn 14 diwrnod o'i dderbyn oni bai bod gennych ddebyd uniongyrchol neu gynllun talu ar waith. Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf o dalu gan y gallwch ledaenu'r gost dros flwyddyn, a byddwn yn cymryd y taliadau'n awtomatig. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Debyd Uniongyrchol.
Os oes gennych gynllun talu ar waith ond nad ydych yn cadw at y trefniant, bydd y balans llawn sy'n weddill yn daladwy.
Os ydych yn derbyn bil wedi’i gyfrifo, mae gennych ddau ddewis:
Dewis 1 - Gallwch gymryd darlleniad gwirioneddol (os yw'n ddiogel i wneud hynny). Anfonwch eich darlleniad atom gan ddefnyddio ein ffurflen darllen mesurydd. Yna byddwn yn anfon bil diwygiedig atoch.
neu
Dewis 2 - Mae ein rhaglen gyfrifo yn gywir iawn. Gallwch dalu eich bil wedi’i gyfrifo yn ôl yr arfer. Byddwn yn ceisio darllen y mesurydd yn ystod y chwe mis nesaf.
Mae nifer o resymau a allai achosi i'ch bil fod yn uwch nag yr ydych yn ei ddisgwyl. Rydym i gyd wedi bod yn treulio mwy o amser gartref yn ddiweddar, naill ai'n gweithio gartref, yn cael gwyliau gartref neu efallai'n gwneud y gwaith cynna a chadw hwnnw sydd wedi bod ar eich rhestr o bethau i'w gwneud ers amser! Bydd bod gartref yn fwy yn arwain at fwy o ddŵr yn cael ei ddefnyddio, fflysio’r toiled yn fwy aml, mwy o gawodydd neu faddonau, neu hyd yn oed fwy o baneidiau o de, ac os ydych chi ar fesurydd mae'n hawdd anghofio y gallai cynnydd bach fan hyn a fan draw arwain at fil mwy yn y dyfodol – gan eich bod ond yn cael eich bilio am y dŵr yr ydych yn ei ddefnyddio.
Pethau i'w hystyried os yw eich bil wedi cynyddu a bod gennych fesurydd dŵr
1. Darlleniad a gyfrifwyd yn flaenorol
Os bu’n rhaid i ni gyfrifo darlleniad blaenorol a’i fod yn rhy isel, gallai eich bil diweddaraf fod yn uwch i gynnwys y dŵr ychwanegol yr ydych wedi'i ddefnyddio.
2. Cyfnod bilio hirach
Gallai eich bil diweddaraf fod am gyfnod hirach na'ch bil blaenorol. Po hiraf y bydd cyfnod y bil, po fwyaf o ddŵr y byddwch yn ei ddefnyddio. Er enghraifft, gallai eich bil cyntaf fod am 150 diwrnod a 26m3, a bydd eich ail fil am 193 diwrnod a 33m3
3. Gweithgareddau sy’n defnyddio llawer o ddŵr
Gall rhai tasgau a gwaith o amgylch y tŷ ddefnyddio llawer o ddŵr. Er enghraifft, gwaith adnewyddu neu addurno sy'n golygu eich bod wedi defnyddio mwy o ddŵr nag arfer, neu ddefnyddio dŵr yn ystod gweithgareddau i'n cadw'n brysur, fel pyllau, tybiau poeth, pyllau padlo neu arddio.
4. Newid yn nifer y bobl
Os yw nifer y bobl sy'n byw yn yr eiddo wedi cynyddu rhwng eich biliau, efallai y byddwch yn defnyddio mwy o ddŵr. Gallai hyn fod yn newidiadau fel cael babi, ymwelwyr neu westeion yn aros (er efallai ddim yn ystod y pandemig), neu hyd yn oed pobl yn symud yn ôl i mewn i'ch cartref.
Os bydd angen i ni newid y mesurydd am unrhyw reswm, byddwch yn derbyn bil rhwng eich biliau chwe mis.
Os mai chi yw deiliad y cyfrif a wnaeth gais am y mesurydd dŵr, mae gennych ddwy flynedd i wneud cais i newid eich taliadau yn ôl i rai heb fesurydd. Os oes mesurydd dŵr eisoes wedi’i osod yn eich eiddo cyn i chi ei brynu neu ei rentu, ni ellir tynnu’n mesurydd oddi yno.
Sut i ddarllen eich mesurydd dŵr
Mae darllen eich mesurydd yn rheolaidd yn caniatáu i chi gadw llygad ar faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio ac yn ein helpu ni i gyflwyno biliau cywir, ond sicrhewch ei fod yn ddiogel i chi ddarllen cyn i chi wneud hynny.
Cynghorion wrth ddarllen eich mesurydd:
- Edrychwch ar leoliad a rhif cyfresol y mesurydd ar eich bil dŵr
- Agorwch y caead metel ar siambr y mesurydd dŵr.
- Os oes gorchudd polystyren gwrth-rew ar ben y mesurydd, codwch e.
- Mae caead arall ar rai o’n mesuryddion; os oes un ar eich mesurydd chi, agorwch e i weld wyneb y mesurydd.
- Gwnewch yn siŵr bod y rhif cyfresol ar eich bil yr un fath â’r un sydd ar eich mesurydd.
- Nodwch y rhifau gwyn ar gefndir du, neu ddu ar gefndir gwyn (nid oes angen y rhifau coch).
- Rhowch wybod i ni eich darlleniad ar-lein drwy ddefnyddio ein ffurflen cyflwyno darlleniad mesurydd diogel.
Ble mae’r mesurydd?
Fel rheol, bydd y mesurydd yn y ddaear o flaen eich cartref, ar ffin yr eiddo, neu yn y palmant. Mewn ardaloedd gwledig, mae’n bosibl y bydd y mesurydd gryn bellter o’r eiddo. Os ydych chi’n ansicr ble mae’ch mesurydd, bydd disgrifiad byr o leoliad eich mesurydd ar eich bil.
Sut mae clirio dŵr anwedd o’r mesurydd?
Weithiau, os yw hi wedi bod yn bwrw glaw, bydd dŵr anwedd ar y gwydr ac ni fydd modd gweld y rhifau. Yma rydyn ni’n esbonio sut y dylech chi glirio’r dŵr anwedd er mwyn darllen y mesurydd.
Os oes magnet ar y mesurydd:
- Gosodwch rywbeth metel dros y magnet.
- Defnyddiwch y peth metel i symud y magnet yn ôl ac ymlaen dros ben y rhifau.
- Pan fyddwch chi’n gallu gweld y rhifau’n glir, symudwch y magnet allan o’r ffordd a darllenwch y mesurydd.
Os oes min sychu plastig clir ar y mesurydd:
- Symudwch y min sychu yn ôl ac ymlaen dros y rhifau.
- Pan fyddwch chi’n gallu gweld y rhifau’n glir, rhowch y min sychu uwchben y rhifau fel eich bod chi’n gallu darllen y mesurydd.
Pryd byddwn yn darllen eich mesurydd
Rydyn ni’n ceisio darllen y mesurydd bob chwe mis, ond rydyn ni’n gwybod nad yw rhai cwsmeriaid sydd â mesuryddion yn eu cartrefi am i ni darfu arnyn nhw. Mewn achosion fel hyn, byddwn ni’n derbyn darlleniadau’r cwsmeriaid, ond bydd angen i ni gymryd ein darlleniad ein hun o leiaf unwaith bob dwy flynedd.