Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Y Rhaglen Mesuryddion


Mae ein rhaglen uchelgeisiol i uwchraddio a gosod mesuryddion dŵr ledled Cymru a rhannau o Loegr yn dechrau yng nghanol 2025 a bydd yn helpu ein cwsmeriaid i arbed dŵr yn eu cartrefi.

Nid ydym yn newid y ffordd yr ydych chi'n cael eich bilio, yn lle hynny rydym yn uwchraddio hen fesuryddion ac yn gosod mesuryddion newydd i helpu i ddangos i chi faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio a'i gwneud yn gyflymach ac yn haws newid i filio mesuredig, os hoffech wneud hynny.

Mae defnyddio llai o ddŵr nid yn unig yn golygu y gallech leihau eich bil dŵr, ond biliau cyfleustodau eraill hefyd. A thrwy fod yn fwy clyfar wrth ddefnyddio dŵr, gallwch gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd trwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chadw dŵr yn yr amgylchedd.

Diben y rhaglen

Mae gan fesuryddion lawer o fanteision; Mae'r prif rai yn cynnwys:-

  • Eich helpu chi i weld faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio a'i wneud yn gyflymach ac yn haws i chi newid, os hoffech chi.
  • Cadw fwy o ddŵr yn yr amgylchedd yn wyneb newid hinsawdd a thwf y boblogaeth.
  • Eich helpu chi i arbed arian ar eich biliau dŵr ac ynni.
  • Mae'n caniatáu inni ganfod gollyngiadau yn gyflym a chynllunio ein hatgyweiriadau pan fo eu hangen i helpu i arbed dŵr.

Pryd fyddwn ni yn eich ardal chi

Mae'r rhaglen yn dechrau ym Mhontypridd, Merthyr Tudful a Chaerffili cyn symud i dde-orllewin a gogledd Cymru yn 2026.

Lleoliadau

Ardal Blwyddyn
Pontypridd, Merthyr Tudful a Chaerffili 2025
Y Rhyl a Phorthmadog 2026
Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr 2026
Abertawe a Chastell-nedd 2026
Cwmbrân a Chasnewydd 2027
Rhondda Cynon Taf 2028

Cwestiynau cyffredin

Cyfrifiannell amcangyfrif mesurydd

Allech chi arbed arian gyda mesurydd dŵr?

Atebwch ychydig o gwestiynau i weld beth fyddai eich bil pe byddech ar fesurydd!

Faint o bobl sy'n byw yn eich eiddo?

Mae hyn yn cynnwys oedolion a phlant

{{ displayNumber }}

Sut ydych chi'n defnyddio eich dŵr?

Ydych chi'n defnyddio cawod pŵer, peiriant golchi dillad neu beiriant golchi llestri, taenellwr gardd, neu bibell ddŵr?

Dewiswch ydy neu nac ydy

Eich amcangyfrif misol

Ar sail yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi, byddem ni’n disgwyl i'ch bil fod tua £{MonthlyCharge} y mis* pe baech yn newid i fesurydd.

Amcangyfrif yn unig yw hwn, gall eich bil fod yn uwch neu'n is na hyn yn dibynnu ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio. Byddai eich bil wedi’i seilio ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio bob 6 mis.

Os oes gennych ddiddordeb, darllenwch isod am fwy o wybodaeth.

*Mae’r amcangyfrif misol yn seiliedig ar gwsmer sy’n derbyn gwasanaeth dŵr a charthffosiaeth.

Gallai eich bil bod o gwmpas

£{{monthlyCharge}}

y mis

neu £{AnnualCharge} y blwyddyn.