Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 13:00 20 January 2025

Gallwn gadarnhau bod ein rhwydwaith bellach wedi ail-lenwi a chyflenwadau dŵr wedi’u hadfer. Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar gyflenwad.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol.

Mae manylion wedi'u cyhoeddi yma ar gyfer cwsmeriaid busnes sy'n cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni. Bydd cyflenwadau dŵr amgen yn parhau i fod yn eu lle heddiw.

  • Bodlondeb, LL32 8DU
  • Zip World Conwy, LL32 8QE
  • Parc Eirias, LL29 7SP
  • Maes Parcio Pen Morfa Llandudno, LL30 2BG

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Cyflwyno darlleniad mesurydd


Dim ond unwaith bob chwe mis y mae angen darlleniad mesurydd arnom. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd mae angen darllen eich mesurydd, ac yna gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein i gyflwyno'ch darlleniad.

Sut i ddarllen eich mesurydd dŵr

Cliciwch yma am ganllawiau manwl ar sut i ddarllen eich mesurydd dŵr.

1. Angen cysylltu â ni am ddarlleniad mesurydd?

Gyrrwch neges i ni drwy Gyfryngau Cymdeithasol

Gallwn helpu gydag ymholiadau o ddydd i ddydd trwy Neges Uniongyrchol ar Facebook a Twitter.

Sgwrs Fyw am eich mesurydd, eich darlleniad mesurydd neu eich bil

Siarad ag un o’n gweithredwyr gwasanaeth cwsmeriaid cymwynasgar.
8am - 6pm Llun - Gwener a 9am - 1pm Sadwrn.

Agor Sgwrs Fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrs Fyw

Ffoniwch ni ynglŷn â’ch mesurydd, eich darlleniad mesurydd neu eich bil

Siarad ag un o’n gweithredwyr gwasanaeth cwsmeriaid cymwynasgar

0800 052 6058

8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
9:00am - 1:00pm Sadwrn

Ein hamseroedd ffonio prysuraf

Fel arfer mae ein hamseroedd aros hiraf rhwng 11am ac 1pm, ond rydym ar agor tan 6pm ar ddyddiau'r wythnos os hoffech gysylltu â ni ar adeg dawelach.