Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Rheoliadau dŵr


Mae rheoliadau dŵr yn hanfodol wrth sicrhau ein bod yn gallu darparu’r dŵr yfed gorau posibl i’n cwsmeriaid a diogelu ein cyflenwad.

Dyma pam y mae gennym ni dîm rheoliadau dŵr sy’n gorfodi rheoliadau cyflenwi dŵr (ffitiadau dŵr) 1999 (neu ‘y rheoliadau’). Mae hyn yn ein galluogi ni i gadw eich cyflenwad dŵr yn ddiogel, ac ymdrin â phroblemau a all ddigwydd os yw’r systemau a ffitiadau plymio anghywir wedi eu gosod a’u cysylltu â’n cyflenwad dŵr yfed.

Mae’r rheoliadau yn helpu i ymdrin â phethau megis llygru dŵr yfed, gwastraffu dŵr yfed, a pheidio â defnyddio dŵr yfed yn y ffordd gywir (megis lefelau anarferol iawn o ddefnydd dŵr, mesuriadau anghywir o’r dŵr a ddefnyddir gan y cwsmer). Felly, yn ogystal â’r buddion iechyd, gall y rheoliadau helpu i arbed dŵr.

Mae’r rheoliadau yn fater difrifol iawn, ac mae’n bwysig bod unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r rheoliadau yn cael ei unioni. Weithiau, bydd hyn yn golygu os na fydd cwsmeriaid yn fodlon trwsio’r problemau, fod gennym ni y pŵer i ddefnyddio’r gyfraith i’w datrys. Gall hyn arwain at ddirwyon a gwarantau, neu hyd yn oed erlyniad.

Yn yr un modd â chwmnïau dŵr eraill yn y DU, mae Dŵr Cymru yn aelod o y Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr. Mae hwn yn helpu i rannu arferion gorau, a chael y newyddion diweddaraf ynghylch popeth sy’n ymwneud â ‘gwaith plymio’. Mae ein polisi gorfodi hefyd yn egluro rhagor am y ffordd yr ydym ni’n gweithio.

Os hoffech chi gysylltu ag aelod o’r tîm rheoliadau dŵr, anfonwch neges e-bost atom ni e-bost waterregulations@dwrcymru.com.

Generic Document Thumbnail

Polisi Gorfodi Rheoliadau Dŵr

PDF, 318.5kB