Falfiau Parth Pwysedd Is (RPZ)
Os oes falf RPZ wedi ei gosod yn eich eiddo neu os ydych chi'n credu bod angen gosod un, yna mae rhai pethau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt cyn cychwyn.
Ffitiad a ddefnyddir i amddiffyn rhag adlif mewn systemau plymio risg uwch yw Falfiau Parth Pwysedd Is a elwir yn aml yn falfiau RPZ neu'n ddyfeisiau Math BA. Mae gan adlif y potensial i halogi dŵr, felly mae hi'n ofyniad cyfreithiol eich bod yn gosod yr amddiffyniad cywir mewn unrhyw osodiad plymio.
Yn wahanol i fathau eraill o amddiffyniad rhag adlif fel y trefniadau bwlch aer a ddefnyddir mewn gosodiadau risg uwch, dyfais fecanyddol yw falf RPZ ac mae angen ei phrofi a'i chynnal a'i chadw yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu'r lefelau angenrheidiol o amddiffyniad.
Gosod Falf RPZ
O dan y Rheoliadau, rhaid ein hysbysu am osod unrhyw falf RPZ, sy'n golygu na chewch osod falf heb roi gwybod i ni'n gyntaf.
Pan fyddwn ni'n rhoi caniatâd i osod falf RPZ, rhaid i'n cwsmer gytuno i'n Hamodau a Thelerau Gosod a bodloni unrhyw amodau a orfodir mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig.
Gallwch ein hysbysu ni trwy lenwi ein ffurflen a'i dychwelyd. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen isod. Pan fyddwch wedi ei hysbysu ni, byddwn ni'n cysylltu â chi naill ai i roi caniatâd neu i ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen.
Wrth osod falf RPZ, byddwch am fod yn sicr eich bod chi'n defnyddio gosodwr sy'n gwybod digon amdanyn nhw. Profwyr achrededig yn unig gaiff gomisiynu a phrofi falfiau RPZ, fel y rhai y mae WaterSafe yn eu rhestru ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Arbenigol.
Cynnal a chadw Falf RPZ
Nid yw falf RPZ yn ddyfais amddiffyn rhag adlif y gallwch ei gosod ac anghofio amdani. Rhaid profi'r ffitiadau o leiaf unwaith bob 12 mis er mwyn cynnal cydymffurfiaeth, ac mae hynny'n ofyniad o dan Ddull Gosod Cymeradwy'r Ymgymerwyr Dŵr, AIM-08-01.
Am hynny, bydd angen i chi gadw cofnodion o'r profion blynyddol a sicrhau eich bod chi, neu eich profwr, yn cyflwyno tystiolaeth o bob prawf i ni. Rydyn ni'n cadw cofnod o'r holl Falfiau RPZ rydyn ni'n cael gwybod amdanynt ac yn monitro’u statws profi.
Bydd angen hefyd i chi feddwl am archwilio'r falf yn rheolaidd am arwyddion o draul a diffyg a rhoi gwybod i ni ar unwaith os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Ansicr a oes angen Falf RPZ arnoch?
Os ydych chi wedi cael eich cynghori i osod Falf RPZ ond yn ansicr a oes ei hangen ai peidio, cysylltwch â ni i ofyn am gyngor. Mae yna opsiynau eraill ar gael i ddarparu'r lefel angenrheidiol o amddiffyniad rhag adlif, ac mae gan rai ohonynt lai o ofynion penodol ar gyfer profi a chynnal a chadw.
Gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio waterregulations@dwrcymru.com neu trwy roi galwad i ni ar 01792 841572.
Os hoffech gael cyngor annibynnol am Falfiau RPZ, mae Water Regs UK yn cynnig gwasanaeth cynghori technegol ac yn cyhoeddi canllawiau a gydnabyddir gan y diwydiant ar eu gwefan. Gallwch eu ffonio nhw ar 01495 983010 neu e-bostio info@waterregsuk.co.uk.