Gosodwyr Pibellau Cyflenwi Dŵr Cymeradwy WaterSafe
Mae Dŵr Cymru’n lansio menter newydd ar gyfer archwilio ffosydd wrth osod cyflenwadau dŵr.
Bydd y fenter yn cyflymu’r broses trwy ganiatáu i osodwyr ardystiedig WaterSafe (y gofrestr genedlaethol o gontractwyr cymeradwy) hunan-ardystio cysylltiadau dŵr newydd.
Bydd hyn yn golygu llai o aros i Ddŵr Cymru ddod allan, llai o amser gyda ffosydd agored, a llai o amser yn aros i’r gwaith gael ei gwblhau.
Trwy gyflogi gweithwyr proffesiynol cymwys, y gallwch ymddiried ynddynt, ac sydd â’r yswiriant cywir, bydd y fenter yn rhoi llai o straen ar bawb o dan sylw, ac effeithlonrwydd fydd y ffactor allweddol. Bydd yn helpu hefyd i gynnal safonau uchel o ran Iechyd a Diogelwch ar y safle.
Rydyn ni’n hyrwyddo manteision gosodwyr pibellau cyflenwi dŵr WaterSafe i’n cwsmeriaid, a gallwn helpu datblygwyr i gofrestru trwy ein cynllun contractwyr cymeradwy lleol, WIAPS. Rydyn ni am gynorthwyo Datblygwyr a’u contractwyr i ddod yn gymeradwy.
Ond bydd angen o hyd i’r rhai sy’n dewis peidio â defnyddio contractwyr cymeradwy gael archwiliad llawn o’r ffos cyn y gellir gwneud y cysylltiad o hyd.
Mae WaterSafe wedi cynhyrchu ffilm fer sy’n esbonio pam y dylech chi ddefnyddio contractwyr cymeradwy i osod eich pibellau cyflenwi dŵr, a gallwch wylio hon isod:
Plymwyr Cymeradwy WaterSafe
Rydyn ni’n hyrwyddo defnyddio plymwyr WaterSafe i’n holl gwsmeriaid, gan gynnwys datblygwyr. Gallwn gynorthwyo plymwyr cymwys i ymuno â WaterSafe trwy ddarparu hyfforddiant am ddim yn y Rheoliadau Dŵr. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.
I glywed rhagor am WIAPS a WaterSafe, gan gynnwys sut i ymuno, cliciwch yma.
Dylid nodi nad yw aelodau WaterSafe a WIAPS yn uniongyrchol gysylltiedig â Dŵr Cymru. Rydyn ni’n cefnogi’r cynlluniau yma ac yn hyrwyddo’r defnydd o osodwyr hyfedr a chymwys i’n cwsmeriaid.
Cwestiynau Cyffredin
WaterSafe yw’r gofrestr genedlaethol o gontractwyr cymeradwy, fel gosodwyr pibellau cyflenwi dŵr a phlymwyr. Gallwch ddod o hyd i’ch contractwr cymeradwy lleol yn www.watersafe.org.uk neu trwy ddefnyddio’r bar chwilio ar dudalen hafan ein gwefan.
Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n ymddiried mewn contractwyr cymeradwy i ardystio rhai mathau o waith gosod yn hytrach na bod angen i ni ddod allan i gyflawni archwiliad. Er enghraifft, gall pibell gyflenwi dŵr newydd sy’n cael ei gosod gan gontractwr WaterSafe gael ei hadlenwi ar unwaith, sy’n golygu nad oes angen i ni gyflawni archwiliad ffisegol o’r ffos.
Os oes angen i ni gyflawni unrhyw waith yn y briffordd ar gyfer eich cysylltiad dŵr newydd, bydd angen i ni gyflawni ymweliad safle o hyd er mwyn bwrw golwg ar y gofynion rheoli traffig a marcio ein cyfarpar. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i ni fwrw golwg ar y gwaith plymio mewnol os yw’r cysylltiad ar gyfer eiddo annomestig neu gyflenwad dros dro.
Os ffeindiwch nad yw gwaith sy’n cael ei gyflawni gan gontractwr cymeradwy’n gywir, gallwch gysylltu â’u cynllun lleol i ymchwilio i’r peth. Dylai eu tystysgrifau ddweud wrthych pa gynllun y maen nhw’n aelod ohono, ond gallwn ni helpu i’ch cyfeirio chi os oes angen.
Os ffeindiwn ni fod problem gyda gwaith a gyflawnwyd gan gontractwr cymeradwy, byddwn ni’n gweithio gyda nhw i’w gywiro yn y lle cyntaf. Gellir archwilio contractwyr cymeradwy yn gyfnodol er mwyn sicrhau bod eu gwaith yn cydymffurfio.
Bydd contractwr cymeradwy yn rhoi tystysgrif o gydymffurfiaeth i chi ar gyfer y gwaith maent wedi ei gyflawni. Rhaid iddynt gyflwyno’r dystysgrif yma’n uniongyrchol i’r person sydd wedi gofyn am y gwaith, ond mae gofyn iddynt anfon copi atom ni ar gyfer cysylltiadau cyflenwi dŵr newydd hefyd.
Pan ddaw hyn i law, byddwn ni’n dilysu statws eu haelodaeth ac yn eich cynghori ar y camau nesaf ar ôl i ni dderbyn y dystysgrif.