Ffurflen hawlio
Mae Ffurflen Hawlio yn ddogfen gyfreithiol ffurfiol a ddefnyddir i wneud hawliad yn y Llys Sirol. Mae'r Ffurflen Hawlio yn nodi sail yr hawliad ynghyd â'r swm yr ydym yn ei hawlio gennych.
Cwestiynau Cyffredin
Ni ddylech ei hanwybyddu a dylech ei darllen yn ofalus. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol os nad ydych yn siŵr am unrhyw agwedd ar y ffurflen hawlio a'r hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf.
Os byddwch yn cydnabod yr hawliad, caiff y terfyn amser o 14 diwrnod ei gynyddu i 28 diwrnod. Rhoddir amser ychwanegol i chi ymchwilio i'r mater a chael cyngor cyfreithiol annibynnol. Byddem yn fwy na pharod i drafod yr hawliad gyda chi ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn.
Os byddwch yn gwneud cynnig i dalu drwy randaliadau yn ystod y cam hwn, mae hynny naill ai'n golygu mai dyma'r tro cyntaf rydych wedi gwneud y cynnig, neu eich bod yn ailadrodd / cynyddu cynnig a wrthodwyd gennym yn flaenorol. Dylech anfon y cynnig atom, a byddwn yn anfon ein hymateb i'r llys. Os bydd y llys yn penderfynu gwneud gorchymyn i dalu drwy randaliadau nad ydym yn credu ei fod yn rhesymol, gallwn apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn naill ai am randaliadau uwch neu am 'ddyfarniad di-oed' (hy, eich bod yn talu'r ddyled lawn ar unwaith).
Bydd hyn yn golygu y caiff y mater ei drosglwyddo i'ch llys lleol. Ceir cyfarwyddiadau pellach gan y llys a phennir dyddiad ar gyfer gwrandawiad y bydd yn rhaid i chi / eich cynrychiolydd cyfreithiol gydymffurfio â hwy. Caiff mater a amddiffynnir ei atgyfeirio at ein Cyfreithiwr Cwmni i ymdrin ag ef.
Os na fyddwch wedi ymateb i'r hawliad o fewn 14 diwrnod, gallwn wneud cais am Ddyfarniad Diffygdalu, sy'n golygu y gallwn symud ymlaen i'r cam gorfodi.
Pan fyddwn yn mynd i gostau cyfreithwyr a llysoedd, mae hawl gennym i ychwanegu'r costau hyn at y swm y gofynnir amdano ar y ffurflen hawlio. Mae'r costau hyn yn rhan o'r balans newydd. Gallwn hefyd ofyn am log ar werth y ddyled.
Cysylltwch â’n tîm dyledion
Siaradwch â chynghorydd
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.
8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.