Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 13:00 20 January 2025

Gallwn gadarnhau bod ein rhwydwaith bellach wedi ail-lenwi a chyflenwadau dŵr wedi’u hadfer. Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar gyflenwad.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol.

Mae manylion wedi'u cyhoeddi yma ar gyfer cwsmeriaid busnes sy'n cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni. Bydd cyflenwadau dŵr amgen yn parhau i fod yn eu lle heddiw.

  • Bodlondeb, LL32 8DU
  • Zip World Conwy, LL32 8QE
  • Parc Eirias, LL29 7SP
  • Maes Parcio Pen Morfa Llandudno, LL30 2BG

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Symud cartref


Gall symud cartref fod yn straen ond mae rhoi gwybod i ni yn hawdd. Yma gallwch chi greu cyfrif newydd neu roi gwybod i ni eich bod yn symud os ydych eisoes yn gwsmer.

Creu cyfrif

am y tro cyntaf?

Croeso i Dŵr Cymru! Bydd angen i chi greu cyfrif:

  • Os ydych yn newydd i’n rhanbarth gwasanaeth
  • neu
  • Os ydych yn byw yn ein hardal ar hyn o bryd ond yn symud i’ch eiddo cyntaf lle byddwch yn gyfrifol am y bil.
Greu cyfrif

Os na allwch gwblhau eich symudiad ar-lein, dyma ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

1. Cysylltwch

Gyrrwch neges i ni drwy Gyfryngau Cymdeithasol

Gallwn helpu gydag ymholiadau o ddydd i ddydd trwy Neges Uniongyrchol ar Facebook a Twitter.

Sgwrs Fyw

Os ydych chi angen cyngor, mae ein gweithredwyr gwasanaeth cwsmeriaid yma i’ch helpu. 8am - 6pm Llun - Gwener a 9am - 1pm Sadwrn.

Agor Sgwrs Fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrs Fyw

Unrhyw gwestiynau eraill?

Os nad ydych chi’n gallu gadael i ni wybod ar-lein, yna siaradwch â gweithredwr gwasanaeth cwsmeriaid

0800 052 6058

8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
9:00am - 1:00pm Sadwrn

Ein hamseroedd ffonio prysuraf

Fel arfer mae ein hamseroedd aros hiraf rhwng 11am ac 1pm, ond rydym ar agor tan 6pm ar ddyddiau'r wythnos os hoffech gysylltu â ni ar adeg dawelach.

Pryd i roi gwybod i ni eich bod chi wedi symud

Os oes gan eich eiddo presennol neu’ch eiddo newydd fesurydd dŵr:

  • Rhowch wybod i ni hyd at ddau ddiwrnod ymlaen llaw eich bod yn symud.
  • Cofiwch gymryd darlleniad terfynol neu gyntaf ar y diwrnod y byddwch yn symud. Yna gallwn eich bilio am yr hyn yr ydych wedi’i ddefnyddio pan yr oeddech yn gyfrifol.
  • Ein nod yw gwneud eich symudiad mor hawdd â phosibl gan ddeall efallai na fydd gennych eich darlleniad mesurydd terfynol. Peidiwch â phoeni, mewn achosion o'r fath, byddwn yn cyfrifo darlleniad yn seiliedig ar eich defnydd yn y gorffennol. Ar gyfer cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol, mae gennym yr opsiwn i ddarllenwr mesurydd ymweld â'r eiddo cyn i chi symud allan, gan sicrhau bod darlleniad mesurydd gwirioneddol yn cael ei gymryd. Rhowch wybod i ni o leiaf 21 diwrnod gwaith ymlaen llaw os ydych am drefnu apwyntiad.

Os nad oes gan eich eiddo presennol neu eiddo newydd fesurydd dŵr:

  • Gallwch roi gwybod i ni hyd at 14 diwrnod cyn i chi symud cartref, os wnewch chi ffonio neu sgwrsio â ni yn fyw.

Cyngor i fyfyrwyr

Symud cartref

Os ydych chi'n symud i'ch llety newydd, mae'r canllawiau a'r ffurflen uchod hefyd yn berthnasol i chi. Os hoffech ddarganfod mwy, rydym ni wedi llunio rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol.
Cyngor i Fyfyrwyr