Rheoli eich cyfrif ar-lein ac ymuno â'n cymuned ddigidol!
Nid oes angen i chi ein ffonio bob amser i ddatrys eich ymholiad, mae ein gwasanaethau digidol ar gael bob awr o bob dydd a gall olygu na fydd angen i chi ein ffonio.
Arbedwch amser, ewch ar-lein.
Mae ein proses gofrestru un-tro yn golygu mai dim ond eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair y bydd angen i chi eu cofio. Gallwch gyrraedd y gwasanaethau canlynol yn rhwydd:
Gweld eich taliadau diweddar a rhai sydd ar ddod
Gweld eich holl filiau cyfredol a hanesyddol mewn un lle
Sefydlu neu ddiwygio dyddiad debyd uniongyrchol ar unrhyw adeg
Cyflwyno darlleniad mesurydd
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw broblemau yn eich ardal chi
Mae gwybodaeth a dyfynbrisiau ar gael mewn amser real
Taliadau cerdyn diogel wedi'u gwneud yn hawdd i chi
Rhoi gwybod i ni eich bod yn symud cartref
Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich cyfeirnod cwsmer a rhai manylion personol i gofrestru!
Mewngofnodwch neu CofrestrwchWyddoch chi y gallwch chi hefyd wneud unrhyw un o'r canlynol ar-lein heb orfod siarad â ni?
Mae ein ffurflenni gwe yn hawdd ac yn syml i'w defnyddio. Mae'n cymryd rhwng 2 funud a 6 munud yn dibynnu ar y ffurflen a'r cyfan sydd ei angen arnoch yw eich cyfeirnod cwsmer.
-
Sefydlu Debyd Uniongyrchol
Sefydlu cynllun talu neu ddebyd uniongyrchol.
-
Symud neu greu cyfrif
Rhoi gwybod i ni eich bod yn symud.
-
Gwneud taliad
Gwneud taliad ar-lein.
-
Newid eich enw
Diweddaru eich enw fel deiliad y cyfrif.
-
Newid eich cyfeiriad bilio
Newid y cyfeiriad yr anfonir eich biliau iddo.
-
Newid y dewis iaith
Diweddaru eich dewisiadau i dderbyn dogfennau yn Gymraeg neu'n Saesneg.
-
Newid eich ebost
Diweddaru'r cyfeiriad e-bost ar eich cyfrif.
-
Newid rhif cyswllt
Diweddaru'r rhif cyswllt ar eich cyfrif.
Eich gwasanaethau Dŵr Cymru – unrhyw bryd, unrhyw le
Ymunwch â'n cymuned ddigidol drwy barhau i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein ar yr adeg fwyaf cyfleus i chi. Mae ein holl wasanaethau ar gael mewn un lle a gall arbed amser i chi.
Gwasanaethau ar-lein