Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 21:00 22 January 2025

Gallwn gadarnhau bod ein rhwydwaith bellach wedi ail-lenwi a chyflenwadau dŵr wedi’u hadfer. Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar gyflenwad.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol.

Mae manylion wedi'u cyhoeddi yma ar gyfer cwsmeriaid busnes a domestig sy'n cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni.

Mae gorsafoedd dŵr potel bellach ar gau.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Dŵr gwastraff


Mae ein systemau carthffosiaeth yn casglu dŵr gwastraff domestig o allfeydd draenio o gwmpas eich cartref, ac yn ei gludo trwy rwydwaith o bibellau danddaear i’n gweithfeydd trin gwastraff. Yma mae’r garthffrwd yn cael ei glanhau a’i dychwelyd i’r amgylchedd.

Mewn rhai ardaloedd, mae’r carthffosydd hyn yn cludo dŵr gwastraff a dŵr glaw mewn un bibell; carthffosydd cyfun yw’r rhain. Mewn ardaloedd eraill, maen nhw’n cludo dŵr glaw a dŵr gwastraff mewn pibellau ar wahân; a charthffosydd unigol yw’r rhain.

Yng ngolwg ein cwsmeriaid, dylai system garthffosiaeth dda fod “o’r golwg, ac o’r meddwl” ac mae hwn yn wasanaeth y mae Dŵr Cymru’n ceisio ei ddarparu 24 awr y dydd a 365 diwrnod y flwyddyn.

Fodd bynnag, weithiau mae rhwystrau a diffygion eraill yn codi, ac ni allwn eu hatal. Mae angen eich cymorth chi i roi gwybod i ni am y rhain.

Weithiau mae’r diffygion hyn yn codi ar y rhannau o’r system draenio rydych chi’n gyfrifol amdanynt ac mae’n bwysig eich bod chi’n deall ble mae terfyn eich cyfrifoldeb chi.

Beth sy'n eiddo i chi?

Y pibellau porffor yn y darlun isod. Chi sy'n gyfrifol am y pibellau sy'n casglu'r dŵr gwastraff o'ch eiddo chi yn unig, ac sy'n gorwedd y tu fewn i'ch cartref neu o fewn ffiniau eich eiddo.

Beth sy'n eiddo i ni?

Y pibellau oren yn y darlun isod. Ni, yn fwy na thebyg, sy’n gyfrifol am y pibellau sy'n draenio eich cartref ond sy'n gorwedd y tu hwnt i ffin eich eiddo, a'r pibellau sy'n eich gwasanaethu chi a'ch cymdogion.

Beth sy'n eiddo i'r Cyngor?

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw floc ar yr eiddo y maen nhw'n eu rheoli, ac mewn draeniau ar briffyrdd a chwteri.

Arolygiadau Carthffosydd Rhagweithiol

Rydyn ni'n derbyn tua 2,000 o gysylltiadau y mis gan ein cwsmeriaid am dagfeydd mewn carthffosydd.

Er na fydd llawer o'r tagfeydd hyn byth yn digwydd eto, mae rhai cwsmeriaid yn dioddef problemau dro ar ôl tro.

Rydyn ni wedi cychwyn rhaglen beilot i glustnodi cymunedau sydd wedi dioddef cyfradd uwch na'r cyfartaledd o dagfeydd mewn carthffosydd.

Er mwyn ceisio atal y problemau hyn rhag codi eto, rydyn ni'n archwilio'r rhwydwaith o garthffosydd yn yr ardaloedd hyn i sicrhau bod popeth yn llifo fel y dylai, bod ein pibellau mewn cyflwr da ac nad yw cwsmeriaid yn fflysio'r pethau anghywir i lawr y draen.

Ni allwn ymweld â'n holl gymunedau eleni, felly rydyn ni'n blaenoriaethu ein hymweliadau ar sail hanes yr ardal o ran problemau, a'n rhagolygon o ran ble mae'r crynoadau nesaf o dagfeydd mewn carthffosydd yn debygol o godi.

Rydyn ni'n cysylltu â chwsmeriaid i roi gwybod i chi pryd y byddwn ni yn eu hardal. Yn y cyfamser, daliwch ati i roi gwybod i ni am unrhyw dagfeydd mewn carthffosydd a chofiwch fod yn ofalus o ran beth rydych chi'n ei waredu i lawr y tŷ bach neu'r sinc - gan ddilyn y camau syml sydd ar ein tudalennau Stop Cyn Creu Bloc.