Biosolidau
Gwrtaith cost-effeithiol a chynaliadwy, sy’n darparu ffynhonnell gwerthfawr o faetholion a deunydd organig.
Beth yw biosolidau?
Cynnyrch terfynol prosesau trin dŵr gwastraff yw biosolidau. Gellir defnyddio biosolidau fel cynnyrch cynaliadwy i gyfoethogi’r pridd, ac maent yn cynnig pob math o fanteision dros wrteithiau cemegol. Maent yn ffynhonnell werthfawr o ddeunyddiau organig, maetholion i blanhigion ac elfennau hybrin.
Mae Dŵr Cymru Welsh Wateyn darparu gwasanaeth cyflawn, gan gynnwys gwasanaeth samplo pridd i asesu addasrwydd y tir, a chymorth ac arweiniad parhaus er mwyn sicrhau bod y maetholion yn cael eu defnyddio’n effeithlon. Mae biosolidau’n addas i’w taenu’n flynyddol ar systemau caeau âr a glaswellt.
Rydyn ni’n chwilio am safleoedd y gall cerbydau nwyddau trwm eu cyrraedd dros y gaeaf, ac sydd o fewn 40 milltir i’n Gweithfeydd AAD – sydd ym Mhort Talbot, Caerdydd, Henffordd a Wrecsam.
Biosolidau
PDF, 808.7kB
Am ragor o fanylion, cysylltwch ag un o’n Gwyddonwyr Amaethyddol:
Jenna Thompson, Y de-orllewin: 07387 259022
Tom Powell, Y de-ddwyrain a Sir Henffordd: 07387 258999
Shaun Thomas, Y gogledd: 07795 445258
neu ebost: biosolidsenquiries@dwrcymru.com