Cynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff


Mae Cynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMPs) yn asesiadau o risg, cyfleoedd ac opsiynau i reoli carthffosiaeth a glawiad nawr ac yn y dyfodol.

Beth yw DWMPs?

Maent yn gynlluniau a ysgogir gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid sy'n dangos sut rydym yn trawsnewid ein gweithrediad presennol i'r gwasanaeth y mae ein cwsmeriaid a'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl yn y dyfodol. Mae cynllun sengl yn ystyried risgiau dros o leiaf 25 mlynedd ac yn darparu opsiynau i ddatrys y risgiau hynny. Caiff y cynlluniau hyn eu hailasesu bob pump mlynedd a chaiff cynnydd ei fonitro'n flynyddol.

Rydym yn datblygu’r cynlluniau hyn i roi sicrwydd i’r Llywodraeth, bod gennym gynlluniau ar waith i gyflawni disgwyliadau’r Llywodraeth, ein rheoleiddwyr, rhanddeiliaid a’n cwsmeriaid.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni yn DWMP@dwrcymru.com os hoffech ragor o wybodaeth neu i ystyried cyfleoedd buddsoddi ar y cyd â ni.