Ein Cynllun presennol: DWMP24
Rydym yn cynhyrchu Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMP) sy'n darparu sail ar gyfer cynllunio gwasanaethau draenio a dŵr gwastraff yn yr hirdymor. Mae DWMP yn gynllun ar gyfer y dyfodol i sicrhau'r canlyniad gorau i'r amgylchedd a'n cwsmeriaid.
Dogfennau eraill
Rydym wedi cynnwys dolenni i holl ddogfennau’r DWMP, gan gynnwys y Cynllun llawn, ar waelod y dudalen we hon.
Taith Ymchwil Cwsmeriaid y DWMP
Cynllun wedi’i ysgogi gan gwsmeriaid yw’r DWMP, yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau twf poblogaeth, ymgripiad trefol a newid yn yr hinsawdd y dyfodol i’n systemau draenio dŵr gwastraff rhwng 2025 a 2050.
Y cynllun
Astudiaeth gynllunio hirdymor yw’r DWMP, sy’n ystyried anghenion draenio a charthffosiaeth dros y 25 mlynedd nesaf. Mae’r Cynllun yn edrych ar dueddiadau’r dyfodol ac yn ymwreiddio dull o gydweithio ag eraill i ymchwilio a nodi opsiynau ar gyfer rheoli ein gwasanaethau dŵr gwastraff yn gynaliadwy.
Mae’r Cynllun yn asesu lefel y risg yr ydym yn ei hwynebu o’r newid yn yr hinsawdd, datblygiad trefol, a phoblogaeth sy’n newid. Mae’n edrych 25 mlynedd i’r dyfodol, o leiaf, ac mae’r Cynllun presennol yn trafod sut y byddwn yn ymdrin â heriau rhwng 2025 a 2050.
Rydym wedi llunio'r Cynllun a dau grynodeb:
Cymeradwywyd holl ddogfennau’r DWMP trwy broses llywodraethu a sicrwydd mewnol y DWMP. Mae hyn yn dilyn cyfres o gamau adolygu a chadarnhau a ddangosir isod:
Mae grwpiau her Dŵr Cymru wedi’u cyfansoddi o arbenigwyr o Dŵr Cymru a sefydliadau eraill. Mae hyn yn caniatáu i ni gael safbwyntiau gan gwsmeriaid a’r rhai sy’n cynllunio ac yn rheoli seilwaith, perygl llifogydd a’r amgylchedd dŵr. Mae’r grwpiau hyn yn fforymau sy’n bodoli eisoes ac yn rhan o’n llywodraethu ehangach.
Cymeradwywyd pob dogfen ar bob cam, â chadarnhad terfynol gan Fwrdd Glas Cymru.
Dangosir hyn yn y Datganiad Sicrwydd Bwrdd.
Mae’r Cynllun wedi’i ysgogi gan gwsmeriaid; fe wnaethom ymgynghori â chi ar eich Cynllun drafft rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2022. Mae eich adborth yn cael ei ddefnyddio i lunio’r DWMP terfynol a sut rydym yn bwriadu cyflawni ein nodau terfynol er budd cwsmeriaid a’r amgylchedd mewn ffordd fforddiadwy.
Mae’r Datganiad o Ymateb yn darparu gwybodaeth am ein hymgynghoriad rhanddeiliaid a’r ymatebion a dderbyniwyd gennym. Rhoddodd canfyddiadau’r ymgynghoriad lawer o wybodaeth werthfawr i ni am sut y gallwn wneud y Cynllun yn haws i’w ddeall, tra hefyd yn ein helpu i lunio a datblygu fersiynau’r dyfodol.
Rydym wedi cyfuno ein hymatebion strategol Dŵr Cymru 2050, amcanion cynllunio cenedlaethol ac adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid yn dair thema gynllunio lefel uchel:
- Cyfanswm dŵr - Lleihau’r perygl o lifogydd i gymunedau
- Ansawdd dŵr - Gwella ansawdd dŵr i’r amgylchedd
- Cydnerthedd a chynnal a chadw - Gwneud yn siŵr y gallwn addasu i newidiadau yn y dyfodol, tra hefyd yn cynnal gwasanaethau pwysig a diogelu’r amgylchedd
Ein nod cyffredinol yw sicrhau y gallwn sicrhau’r lefel ddisgwyliedig o wasanaeth yn y meysydd yr ydym yn gweithredu ynddynt.
Mae hyn yn golygu y byddwn yn gweithio tuag at y cyrchfannau Cwsmeriaid ac Amgylcheddol arfaethedig:
- Cyrchfan Cwsmeriaid – Adeg yn y dyfodol yw hon pan na fydd gan gwsmeriaid lifogydd o garthion y tu mewn i’r cartrefi oherwydd diffyg capasiti’r rhwydwaith carthffosydd.
- Cyrchfan Amgylcheddol – Adeg yn y dyfodol yw hon pan fydd ein hafonydd a’n dyfroedd arfordirol yn derbyn llifoedd wedi’u trin o system garthffosiaeth dim ond pan fydd hyn yn angenrheidiol i ddiogelu eu bioamrywiaeth a’u hecoleg.
Rydym wedi cynnig y camau canlynol i gyrraedd ein cyrchfannau amgylcheddol a chwsmeriaid:
- Rydym yn dechrau gyda’r problemau cyntaf ac yn canolbwyntio ar eu trwsio nhw gyntaf.
- Rydym yn symud wedyn at y problemau ‘gwaethaf nesaf’ tan yr adeg pan fyddwn wedi mynd i’r afael â’r holl broblemau a nodwyd.
Mae manylion y chwe amcan cynllunio cenedlaethol, a chynllun gweithredu’r DWMP, ar gael yn y ddogfen Cyd-destun Strategol. Mae’r fersiwn rhanddeiliaid ar gael yma a’r fersiwn cwsmeriaid yma.
Rydym wedi edrych ar risgiau’r presennol a’r dyfodol a’u hachosion ac wedi nodi meysydd lle’r ydym yn dymuno gweithio gyda’n rhanddeiliaid.
Mae proses y DWMP wedi caniatáu i ni edrych ar ganlyniadau glawiad a charthion cynyddol nawr, ac yn y dyfodol. Gallwn hefyd edrych ar y perygl o lifogydd a llygredd, a sut y bydd hyn yn cynyddu dros amser gan achosi problemau capasiti.
I ddarganfod mwy am weithio cydweithredol, lawrlwythwch ein dogfen ‘Ble rydym ni eisiau gweithio gyda chi’, sy’n rhoi manylion ein gweledigaeth ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
Roedd hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu atebion i fynd i’r afael â risgiau, ansicrwydd, ac amcanion. Rydym wedi edrych ar y canlynol yn rhan o’r broses datblygu opsiynau:
- Cwmpas
- Cost
- Amseru
- Manteision
Ar y cyfan, mae ein dull yn edrych ar wahanol opsiynau o ran:
- Eu cost
- Yr effaith debygol ar lifogydd a llygredd
- Manteision ehangach i bobl, natur, a’r amgylchedd
Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n grŵp her cwsmeriaid a grŵp cynghori amgylcheddol annibynnol yn rhan o’r broses hon.
Rydym yn cymryd yr atebion a ffefrir ac yn edrych ar wahanol raglenni ac amserlenni i’w rhoi ar waith.
Rydym yn dod â’r holl opsiynau sy’n cynnig y gwerth gorau ynghyd mewn Cynllun dros amser. Rydym yn cymryd yr atebion a ffefrir ac yn edrych ar bryd y mae risgiau yn debygol o ddigwydd. Yna, gallwn greu rhaglen o waith sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r risgiau presennol gyntaf ac yna’r rhai sy’n cynnig mwy o fanteision amgylcheddol a chymdeithasol.
Caiff y rhaglen fyrdymor ei phecynnu wedyn a’i chyflwyno i’n rheoleiddiwr ariannol ei hasesu. Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein cynllun busnes diweddaraf.
Rydym wedi crynhoi’r wybodaeth yn y cynllun yn 13 o adroddiadau. Mae’r rhain yn cynnwys y risgiau a’r opsiynau sy’n benodol i’r ardal honno.
Ym mhob adroddiad, rhannwyd yr wybodaeth ymhellach yn ardaloedd cynllunio tactegol. Gallwch ddefnyddio’r dolenni isod i weld y crynodebau ardal ar gyfer ble’r ydych chi:
Y Gogledd | Y De-orllewin | Y De-ddwyrain |
Rydym wedi ymwreiddio egwyddorion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn gynnar yn y broses datblygu Cynllun.
Dim ond yr opsiynau hynny sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd y bwriwyd ymlaen â nhw ar gyfer ystyriaeth yn ein Cynllun.
Caiff y rhai y nodwyd bod ganddynt effeithiau negyddol posibl eu hadolygu eto i ddeall a ellir diwygio’r atebion ac, os na ellir, cynigir ateb arall.
Mae’r cynlluniau hyn yn cyfansoddi rhaglen gyntaf y DWMP o waith wedyn.
Gallwch weld dogfennau’r Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn y dolennu isod:
Rydym wedi bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n rhanddeiliaid a’n cwsmeriaid ar bob cam o’r Cynllun:
- Cyd-destun Strategol
- Asesu Risg
- Datblygu Opsiynau
- Gwerthuso Rhaglen
- Ymgynghori
Rydym yn parhau ein gwaith gyda rhanddeiliaid a chwsmeriaid i:
- Adolygu cynnydd yn erbyn y Cynllun
- Datblygu’r fersiwn nesaf o’r Cynllun
- Darparu opsiynau
Rydym yn datblygu grwpiau gweithio ar y cyd wedi’u cyfansoddi o Fforymau Rheoli Strategol, Byrddau Rhaglen a Byrddau Prosiect Cymunedol. Mae’r rhain yn ein helpu i nodi, cynllunio a gweithredu prosiectau’r DWMP.
Rydym wedi llunio teclyn e-ddysgu a fydd yn eich helpu i ddysgu mwy am y DWMP mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol. Rydym eisiau rhoi digon o wybodaeth i chi fel y gallwch gyfrannu at y Cynllun (nawr ac yn y dyfodol) a’r gwaith o ddatblygu atebion.
Mae ein gwefan e-ddysgu ar gael yma, lle gallwch ddarganfod mwy am:
- Beth yw’r DWMP
- Hanes rheoli draenio a dŵr gwastraff
- Heriau’r dyfodol
- Sut i gymryd rhan yn y gwaith o lunio’r DWMP
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’r DWMP: bydd yn ein helpu i weithio tuag at ein gweledigaeth Dŵr Cymru 2050 i ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd a chyflawni ein cenhadaeth o ddod yn wasanaeth sydd wirioneddol o’r radd flaenaf, yn gydnerth, ac yn gynaliadwy er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Mae Cynllunio Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff yn cael eu llunio ar draws y diwydiant yng Nghymru a Lloegr ac yn seiliedig ar y fframwaith a ddatblygwyd ar ran Water UK – DWMP Water UK.
Pa feysydd cynllunio mae’r DWMP yn eu cwmpasu?
Lefel 1 – Lefel Weithredol Cwmni
Pob cymuned yng Nghymru a Lloegr sy’n ffurfio un ardal weithredu lle’r ydym yn rheoli systemau draenio a dŵr gwastraff.
Lefel 2 - Unedau Cynllunio Strategol
Ymrannu’r ardal weithredu yn ôl Dalgylchoedd Afon Mawr. Ceir cyfanswm o 13.
Lefel 3 – Unedau Cynllunio Tactegol
Ymraniad pellach o’r ardal weithredu yn isafonydd dalgylchoedd afon o fewn Dalgylch Afon Mawr. Ceir cyfanswm o 106.
Lefel 4 – Ardaloedd Cynllunio Lleol
Un dalgylch trin dŵr gwastraff gan gynnwys ardaloedd o garthffos ac asedau eraill sy’n draenio i waith trin dŵr gwastraff. Mae nifer y gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn lleihau dros amser, ac mae tua 830 yn weithredol ar hyn o bryd.
Caiff pob Ardal Cynllunio Lleol Lefel 4 ei neilltuo i un Uned Cynllunio Tactegol Lefel 3. Caiff pob Uned Cynllunio Tactegol Lefel 3 ei chyfuno â phob Uned Cynllunio Strategol Lefel 2 ac mae pob haen Lefel 2 yn ffurfio’r lefel weithredol cwmni.
Sut i gysylltu
Hoffem glywed gennych chi! Cysylltwch â ni yn DWMP@dwrcymru.com os hoffech ragor o wybodaeth, neu os hoffech drefnu rhith-gyfarfod.