Adnoddau Dŵr


Mae’r sefyllfa o ran adnoddau dŵr yn ardal gyflenwi Dŵr Cymru yn eithaf cryf.

Tua 3% o’r glawiad effeithiol blynyddol yr ydym yn ei dynnu er mwyn ei gyflenwi i’r cyhoedd yn ein rhanbarth ni, o’i gymharu â thua 50% yn ne a dwyrain Lloegr.

Mae tua 95% o’n hadnoddau dŵr yn cychwyn eu taith fel dŵr wyneb naill ai o gronfeydd dŵr neu o afonydd. Ychydig iawn yr ydym yn dibynnu ar gyflenwadau dŵr daear. Trwy ddibynnu ar ddyfroedd wyneb, rydym yn fwy tebygol o wynebu prinder ar ôl cyfnodau byr heb lawer o law gan fod lefelau afonydd yn newid yn fwy sydyn na dyfroedd daear.

Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy ac mae Dŵr Cymru’n cael trwydded ganddynt ar gyfer pob man lle maent yn tynnu dŵr. Mae’r trwyddedau hyn yn nodi faint o ddŵr y caniateir ei dynnu ar bob dydd o’r flwyddyn ac ar pa gyfradd. Mae gan afonydd yng Nghymru statws ecolegol uchel ac fe gaiff y trwyddedau eu pennu mewn ffordd sy’n sicrhau bod hyn yn parhau. Mae dŵr yn cael ei ryddhau o gronfeydd Dŵr Cymru yn ystod cyfnodau sych i helpu i gynnal llif yn yr afonydd.


Cadwch lygad ar y dudalen hon i weld sut mae’r lefelau’n newid.


Ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr

Er mwyn sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i’n cwsmeriaid pan fydd arnynt ei angen, mae Dŵr Cymru yn paratoi ac yn cynnal Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (CRhAD) sy’n rhoi rhagolwg o gydbwysedd y cyflenwad a’r galw yn ein hardal cyflenwi dŵr dros gyfnod o 25 mlynedd.

Cawsom gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ein CRhAD Terfynol ym mis Mai 2014. Bu’r CRhAD hwn trwy broses lawn o ymgynghori â’r cyhoedd ac mae’r CRhAD Terfynol wedi’i ddatblygu i adlewyrchu canlyniadau’r ymgynghoriad.


Ein Cynllun Sychder

Er mwyn sicrhau y gallwn reoli’r dŵr a chynnal y cyflenwadau yn ystod tywydd poeth a sych iawn, mae Dŵr Cymru’n paratoi ac yn cynnal Cynllun Sychder. Mae’r ddogfen hon yn nodi dangosyddion allweddol sychder a’r strategaeth weithredol, y strwythurau rheoli a’r cynllun cyfathrebu a fyddai’n cael eu gweithredu yn ystod cyfnod o sychder.

Paratôdd Dŵr Cymru ei Gynllun Sychder Drafft ym mis Mawrth 2014. Mae Cynllun Sychder Drafft 2014 yn adlewyrchu’r ffordd y byddwn yn defnyddio’r pwerau newydd a roddir i gwmnïau dŵr o dan Orchymyn Defnyddio Dŵr (Gwaharddiadau Dros Dro) 2010.