Cynllun Sychder Drafft 2025
Yn Dŵr Cymru, ein gweledigaeth yw “I ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid, bob dydd”. Mae'r weledigaeth honno'n cyd-fynd â'n strwythur perchnogaeth unigryw: nid oes gennym unrhyw gyfranddalwyr ac felly gallwn ganolbwyntio'n llwyr ar ddarparu'r gwerth gorau posibl am arian i'n cwsmeriaid.
Mae'r holl elw a wnawn yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes i wella canlyniadau i'n cwsmeriaid a'r amgylchedd a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae angen i ni ddal gafael ar y ffordd hon o weithio bob dydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau llawn straen, fel sychder, a all fod yn heriol i ni a'n cwsmeriaid. Mae pobl yn ymddiried ynom i gynllunio ar gyfer sychder ac yn ymddiried ynom i gyflawni'r cynlluniau hyn pan fydd yna gyfnodau o sychder – rhaid i ni barhau i ennill yr ymddiriedaeth honno bob dydd. Mae ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr a'n Cynllun Sychder wrth wraidd y strategaeth hon.
Mae cynhyrchu a chynnal Cynllun Sychder yn broses statudol sy'n ofynnol gan y Llywodraeth sydd wedi nodi'r sail gyfreithiol ar gyfer hyn yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991. Cawn ein cyfarwyddo gan Lywodraeth Cymru sydd hefyd yn darparu'r egwyddorion arweiniol ar gyfer ein cynllun. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cynhyrchu'r Canllawiau Cynllunio Sychder ar gyfer cwmnïau dŵr yng Nghymru. Mae ein Cynllun Sychder yn nodi sut y byddwn yn ymdrin ag amodau sychder mewn rhannau trefol a gwledig o’n hardal gyflenwi, a sut y byddwn yn monitro effaith unrhyw gamau a gymerwn ar yr amgylchedd naturiol.
Fe wnaethom ddiweddaru ein Cynllun Sychder ddiwethaf yn 2020 ac mae gennym brofiad uniongyrchol o ba mor dda y perfformiodd yn ystod sychder 2022. Mae'r Cynllun hwn sydd wedi’i ddiweddaru ar gyfer 2025-30 yn esblygiad o'n Cynllun blaenorol i raddau helaeth. Er mwyn helpu i ddatblygu'r Cynllun Sychder hwn, gwnaethom gynnal ymarfer cyn ymgynghori ffurfiol â'n rhanddeiliaid i helpu i nodi unrhyw faterion allweddol y mae angen i ni eu hystyried. Roedd ein gweithgarwch ymgysylltu cyn ymgynghori yn cynnwys dros 1,000 o dderbynwyr ar draws ystod eang o sefydliadau megis cynghorwyr a chynghorau lleol, Aelodau o Senedd Cymru, Aelodau Seneddol, ein Rheoleiddwyr, sefydliadau academaidd a sefydliadau amgylcheddol.
Cynhaliwyd ein hymgynghoriad ar ein Cynllun Sychder drafft am wyth wythnos rhwng 10 Ionawr a 7 Mawrth 2025. Rydym bellach yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn diweddaru ein Cynllun, er mwyn gallu cyflwyno Cynllun Sychder Drafft Diwygiedig i Lywodraeth Cymru ar 25 Ebrill.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, neu gopïau o adroddiadau ategol nad ydynt wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan, e-bostiwch Water.Resources@dwrcymru.com.