Diwygiedig Parthau Adnoddau Dŵr 2020
Mae pobl yn ymddiried ynom i gynllunio ar gyfer sychder ac yn ymddiried ynom i gyflawni’r cynlluniau hynny os bydd cyfnodau o sychder yn digwydd - mae’n rhaid i ni barhau i haeddu’r ymddiriedaeth honno bob dydd.
Mae uchelgeisiau hirdymor Dŵr Cymru wedi eu nodi yn ein dogfen Dŵr 2050 ac mae cynnal cyflenwadau dŵr iachusol wrth wraidd hynny. Un o’n strategaethau allweddol yw'r hyn yr ydym wedi ei alw’n “Digon o Ddŵr i Bawb”. Yn ei hanfod, mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym ni digon o ddŵr bob amser yn unol â disgwyliadau ein cwsmeriaid, hyd yn oed mewn cyfnodau o sychder. Mae ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr a’n Cynllun Sychder wrth wraidd y strategaeth hon.
Mae llunio a chynnal Cynllun Sychder yn broses statudol sy’n ofynnol gan y Llywodraeth sydd wedi gosod sail gyfreithiol i hyn yn Neddf y Diwylliant Dŵr 1991. Llywodraeth Cymru sydd yn ein cyfarwyddo a hefyd yn darparu’r egwyddorion arweiniol ar gyfer ein cynllun. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynhyrchu’r Canllawiau Cynllunio ar gyfer Sychder ar gyfer cwmnïau dŵr yng Nghymru. Mae ein Cynllun Sychder yn nodi sut y byddwn ni’n ymdrin ag amgylchiadau sychder yn rhannau trefol a gwledig ein hardal gyflenwi, a sut y byddwn ni’n monitro effaith unrhyw gamau gweithredu y byddwn yn eu cymryd ar yr amgylchedd naturiol.
Cyhoeddwyd ein cynllun drafft gennym ar gyfer ymgynghoriad ar 25 Gorffennaf 2019 am 8 wythnos, gan ddod i ben ar 19 Medi. Yn ystod y broses ymgynghori fe wnaethom ni:
Gysylltu â mwy na 120 o sefydliadau yn uniongyrchol
Cysylltu â’r Aelodau Seneddol perthnasol a holl Aelodau Cynulliad Cymru
Cyhoeddi’r Cynllun ar ein gwefan a rhoi cyhoeddusrwydd iddo drwy ffrydiau Twitter, Facebook ac Instagram Dŵr Cymru
Cawsom sylwadau oddi wrth gyfanswm o saith gwahanol ymatebwr.
Yn dilyn cau’r ymgynghoriad, rydym ni heddiw (7 Tachwedd 2019) wedi cyhoeddi ein Cynllun Sychder Drafft 2020 ynghyd â’n Datganiad Ymatebol. Dyma’r camau nesaf tuag at gwblhau ein Cynllun Sychder Terfynol:
Adolygiad o’r Datganiad Ymatebol a’r Cynllun Sychder drafft diwygiedig gan Weinidogion Cymru
Cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru
Cyhoeddi ein Cynllun Sychder Terfynol: dyddiad i’w bennu gan Lywodraeth Cymru
Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, neu gopïau o adroddiadau cefnogol nad ydyn nhw wedi eu cyhoeddi ar ein gwefan, yn ymwneud â Chynllun Sychder drafft 2020, yna anfonwch e-bost at Water.Resources@dwrcymru.com