Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio yw:

Dydd Mawrth 24 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Mercher 25 Rhagfyr - Dydd Iau 26 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Gwener 27 Rhagfyr: 09:00 - 17:00
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr: 09:00 - 13:00
Dydd Llun 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Mercher 1 Ionawr: Ar gau

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Terfynol 2024


Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol ar gyfer dros tair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru, ac ardaloedd cyfagos yn Lloegr.

Ni yw’r mwyaf ond chwech o ddeg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig Cymru a Lloegr, ac rydyn ni’n unigryw o ran ein bod ni’n fusnes nid-er-elw heb unrhyw gyfranddeiliaid. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n cael ein llywio’n llwyr gan yr hyn sydd er budd gorau hirdymor ein cwsmeriaid a’r amgylchedd.

Rydyn ni’n gwybod bod cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu gwasanaethau diogel a dibynadwy o’r safon uchaf ar eu cyfer pob dydd, dim ots beth a ddaw o ran y tywydd neu sialensiau gweithredol eraill. Mae angen hefyd iddyn nhw allu ymddiried ynom ni i flaengynllunio, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yna’n gynaliadwy ac yn wydn am ddegawdau i ddod.

Pam ein bod ni’n paratoi Cynlluniau Rheoli Ansawdd Dŵr

Mae’r dŵr sy’n dod allan o dapiau ein cwsmeriaid yn dod o amrywiaeth o ffynonellau. Daw’r rhan fwyaf o’r dŵr o’n cronfeydd, er ein bod ni’n codi tipyn sylweddol o ffynonellau afonol tir isel hefyd fel Afon Gwy yn y de-ddwyrain ac Afon Dyfrdwy yn y gogledd. Dŵr daear sydd i gyfrif am lai na phump y cant o’n cyflenwadau ar lefel Cwmni, ond ar lefel leol, gallai’r cyflenwad cyfan fod yn ddŵr daear.

Yn ogystal ag amodau’r tywydd bob blwyddyn, mae faint o ddŵr y gallwn ei storio, ac ymateb naturiol afonydd a dyfrhaenau i’r glawiad yn effeithio ar faint o ddŵr y gallwn ddibynnu arno hefyd.

Waeth beth yw ffynhonnell y dŵr, rydyn ni’n ei basio trwy weithfeydd trin dŵr cyn dosbarthu’r dŵr wedi ei drin i gartrefi a busnesau trwy ein rhwydwaith o bibellau. Mae hi’n gallu bod yn broses gymhleth, yn enwedig lle bo gennym nifer fawr o gwsmeriaid ac amrywiaeth o ffynonellau sy’n gallu bwydo i mewn i ardal cyflenwi dŵr. Fodd bynnag, mae yna fanteision sylweddol i fod â chyflenwadau amgen y gellir manteisio arnynt os oes problem gyda’r ffynonellau dŵr crai, y gweithfeydd trin, neu ein system ddosbarthu.

Er mwyn darparu dŵr ar gyfer ein cwsmeriaid drwy’r dydd, pob dydd, mae angen i ni sicrhau bod yna ddigon o adnoddau dŵr i fodloni’r galw am ddŵr, yn arbennig mewn cyfnodau o sychder, ac felly mae cynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol yn hollbwysig.

Yn yr un modd â phob cwmni dŵr arall, rydyn ni’n diweddaru ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (WRMP) pob pum mlynedd. Mae’r Cynllun yn disgrifio’r sail ar gyfer sicrhau cyflenwadau dŵr digonol yn y tymor hir. Mae hyn yn ymgorffori’r dystiolaeth ddiweddaraf am y galw am ddŵr yn y dyfodol a dibynadwyedd adnoddau dŵr, gan roi ystyriaeth lwyr i’r ddeddfwriaeth amgylcheddol sydd â’r nod o amddiffyn a gwella’r amgylchedd lle’r ydyn ni’n byw, ac effaith bosibl newid hinsawdd, trwy ddefnyddio’r wyddoniaeth a’r dechnoleg orau sydd ar gael.

Datblygu ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr 2024

Mae ymgysylltiad rheolaidd â rhanddeiliaid wedi bod yn nodwedd allweddol yn natblygiad ein WRMP24, gyda’r trafodaethau cynnar yn helpu i sicrhau ein bod ni’n adlewyrchu blaenoriaethau’r Llywodraeth a’n rheoleiddwyr. Lansiwyd ein blaen-ymgynghoriad ffurfiol ar y Cynllun hwn ar 7 Chwefror 2022, pan anfonwyd trosolwg o’n Cynllun a’r wybodaeth ategol at dros 300 o randdeiliaid. Bu’r ymgynghoriad yn rhedeg am 6 wythnos, gan gau ar 21 Mawrth.

Ar ôl cyflwyno ein WRMP24 drafft i Lywodraeth Cymru yn Hydref 2022, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn am 14 wythnos o 16 Tachwedd 2022 i 22 Chwefror 2023. Cyhoeddwyd y prif adroddiad, ynghyd â’r tablau cynllunio, adroddiadau SEA/HRA, a chrynodeb annhechnegol dwyieithog ar ein gwefan. Yn ystod y broses ymgynghori:

  • Cysylltwyd â dros 300 o sefydliadau
  • Cysylltwyd â holl Aelodau perthnasol Senedd Cymru a Llywodraeth y DU
  • Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r Cynllun trwy gyfryngau cymdeithasol Dŵr Cymru
  • Cyflwynwyd y Cynllun i Banel Ymgynghorol Annibynnol Dŵr Cymru ar yr Amgylchedd (IEAP)
  • Cynhaliwyd digwyddiad pwrpasol i randdeilaid (ar lein) ar 24 Ionawr 2023.

Ar ôl diwedd yr ymgynghoriad, cyflwynwyd ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr diwygiedig drafft ar gyfer 2024 i Lywodraeth Cymru ar 23 Mehefin 2023.

Ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr 2024

Ers cyflwyno ein WRMP24 diwygiedig drafft, rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a’n Rheoleiddwyr, sef Ofwat a Chyfoeth Naturiol Cymru’n bennaf, i gywreinio ein WRMP24 ymhellach er mwyn sicrhau ei fod yn hollol gyson â’u disgwyliadau. Ar 15 Hydref 2024, cawsom gadarnhad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi rhoi caniatâd i ni gyhoeddi ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Terfynol ar gyfer 2024, fel y’i diwygiwyd.

I grynhoi, rydyn ni wedi cyflawni dadansoddiad trylwyr a manwl o’r risgiau posibl i’n systemau cyflenwi dŵr yn nhermau’r adnoddau dŵr sydd ar gael i ddiwallu’r galw dros y 25 mlynedd nesaf. Mae’r asesiad yma wedi dangos, yn achos parthau adnoddau dŵr System Defnydd Cysylltiol De-ddwyrain Cymru (SEWCUS) a Thywi Gŵyr, fod yna risg o fethu â chyflawni’r lefelau targed o ran gwytnwch adnoddau dŵr. Mae ein WRMP24 Terfynol felly’n cynnig dull trac deuol cadarn sy’n cynnwys:

  • Parhau â’n rhaglen o ‘ganfod a thrwsio’ gollyngiadau er mwyn cynnal a gwella perfformiad dros amser gan ddefnyddio technoleg newydd.
  • Rhaglen flaengar o osod mesuryddion i gwsmeriaid i’w chyflawni dros gyfnodau AMP8 ac AMP9. Bydd hyn yn ategu cyflawniad ein targedau hirdymor i sicrhau gostyngiad o 50% yn lefelau’r gollyngiadau (yn erbyn lefelau 2017/18), a lleihau defnydd ein cwsmeriaid domestig fesul pen i 110 l/p/d erbyn 2050.
  • Pedwar cynllun i wella rhwydweithiau, dau ym mharth adnoddau dŵr Tywi Gŵyr, a dau yn SEWCUS.
  • Ymrwymiad i gyflawni ymchwiliadau ar y cyd â CNC yn AMP8 er mwyn asesu cynaliadwyedd ein trwyddedau codi dŵr mewn hinsawdd sy’n newid, ac i edrych ymhellach ar Atebion sy’n Seiliedig ar Natur.

Y canlyniad yw y byddwn ni’n bodloni’r targedau tynnach o ran gwytnwch rhag sychder ar gyfer ein holl adnoddau dŵr trwy gyflawni rhaglen o fesurau i ddiogelu cyflenwadau dŵr. Rydyn ni wedi profi ein Cynllun er mwyn sicrhau ei fod yn wydn rhag amryw o senarios hyfyw ar gyfer y dyfodol.

Dyma’r dogfennau allweddol sy’n ffurfio ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Terfynol.

Dogfennau sydd ar gael i’w lawrlwytho

Final Water Resources Management Plan 2024 – Main Report

Download
6.9MB, PDF

Final Water Resources Management Plan 2024 - Non Technical Summary

Download
599.2kB, PDF

Biodiversity Net Gain-Natural Capital Assessment of the Final Water Resource Management Plan 2024

Download
655.3kB, PDF

Habitats Regulations Assessment of the Final Water Resource Management Plan 2024

Download
1.1MB, PDF

Asesiad Cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Fframwaith Dŵr

Water Framework Directive (WFD) Assessment of the Final Water Resources Management Plan 2024

Download
1.5MB, PDF

WFD Assessment (WRMP24) Appendix B

Download
516.5kB, PDF

WFD Assessment (WRMP24) Appendix A

Download
443.9kB, PDF

Asesiad Amgylcheddol Strategol

Strategic Environmental Assessment (SEA) of the Final Water Resources Management Plan 2024

Download
9MB, PDF

Final Water Resources Management Plan 2024 - SEA Post Adoption Statement

Download
1.6MB, PDF