Tablau Marchnad Terfynol Ofwat
Yma gallwch ddod o hyd i ffeiliau ffiniau ein System Gwybodaeth Ddaearyddol a thablau.
Updated: 14:30 24 November 2024
Mae’r hysbysiad berwi dŵr yn effeithio ar gwsmeriaid yn yr ardaloedd yma:
Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli, Tonypandy
Yn ystod profion dyddiol arferol ar ansawdd dŵr, gwnaethom nodi problem gydag ansawdd dŵr yng ngwaith trin dŵr Tynywaun.
Rydym wedi cyhoeddi hysbysiad berwi dŵr i gwsmeriaid a wasanaethir gan y gwaith trin dŵr hwn, tra’n bod ni yn ymchwilio ymhellach.
Daw hyn yn dilyn glaw trwm yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt dros y 24 awr ddiwethaf o ganlyniad i Storm Bert.
Cynghorir pob cwsmer yn yr ardaloedd hyn i ferwi eu dŵr ar unwaith cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed neu goginio.
Rydym yn gwerthfawrogi anghyfleustra’r sefyllfa o ran berwi dŵr, ond rydym yn gobeithio y bydd cwsmeriaid yn deall y rheswm pam ein bod yn cymryd y cam angenrheidiol hwn. Bydd ein timau'n parhau i weithio’n galed i ymchwilio i'r achos.
Byddwn yn parhau i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, edrychwch ar wefan yn eich ardal neu edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth. Mae ein tudalen hysbysiad berwi dŵr sydd ar gael yma hefyd yn cynnwys gwiriwr cod post i nodi'r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio.
Yma gallwch ddod o hyd i ffeiliau ffiniau ein System Gwybodaeth Ddaearyddol a thablau.