"Coginio ar Gyllideb"
Ym mis Mai, gwnaethom gynnal ein Digwyddiad Costau Byw Sesiwn "Coginio ar Gyllideb" cyntaf yn Y Rhyl.
Daeth llawer iawn o gwsmeriaid i’r digwyddiad ac roedd modd iddyn nhw gasglu gwybodaeth gan y 19 sefydliad a oedd yn arddangos, yn ogystal â Thîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd yn cyflwyno’r Sesiwn "Coginio ar Gyllideb."
Nod y sesiwn oedd dangos i bobl sut y gallwch chi wneud pryd blasus gan ddefnyddio cynhwysion cwpwrdd cegin ac i hyrwyddo sut mae bwyta’n iach hefyd yn helpu gyda’ch lles.
Roedd cyfle i flasu Tsili Ffa a gafodd ei goginio ymlaen llaw mewn popty araf, a hefyd, cafodd pawb a ddaeth i’r digwyddiad fag wedi’i lenwi â’r holl gynhwysion sydd eu hangen i wneud y tsili ffa ynghyd â llyfr ryseitiau. Diolch yn fawr i Morrisons Rhyl am roi’r holl fwyd.
Cawsom 2 enillwyr lwcus wnaeth ennill popty araf, roedden nhw’n falch iawn ac yn edrych ymlaen at wneud prydau blasus.
Daeth S4C draw i ffilmio’r diwrnod gan eu bod yn gwneud tipyn o hyrwyddo ynghylch costau byw a manteision bwyta’n iach.