Rhybudd Berwi Dŵr

Wedi’i ddiweddaru: 19:00 02 December 2024

PWYSIG: Rydyn ni wedi ymestyn yr Hysbysiad Berwi Dŵr sydd mewn grym ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardaloedd canlynol: Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, y Gelli, rhannau o’r Pentre, rhannau o Donypandy a rhannau o Ystrad.

Achosodd Storm Bert lifogydd sylweddol ar safle Gweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun, gyda dŵr wyneb yn llifo oddi ar y bryn i mewn i’r tanc storio dŵr yfed gan effeithio ar y tanc ei hun.

Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i unioni’r broblem, ond mae’r gwaith i atal difrod rhag llifogydd pellach yn golygu gosod pilenni anhydraidd o gwmpas y tanc storio.

Mae angen cyfnod o dywydd sych i gyflawni hyn yn llwyddiannus ac mae ein timau’n gweithio rownd y cloc i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.

Bydd ein timau’n parhau i weithio rownd y cloc i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.

Yn y cyfamser, rydyn ni’n gofyn i’r holl gwsmeriaid yn yr ardaloedd o dan sylw i barhau i ferwi eu dŵr cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed.

Rydyn ni’n dosbarthu dŵr potel i’r cwsmeriaid sydd ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ac i gartrefi gofal, ac yn gweithio gyda safleoedd allweddol fel ysbytai.

Mae gorsafoedd dŵr potel ar agor yn y lleoliadau canlynol:

  • Ystâd Ddiwydiannol Ynyswen, Heol Ynyswen, Treorci, CF42 6ED.
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Parc Gelligaled, Heol Tyntyla, CF41 7SY.
  • Co-op, Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6UA.

Rydyn ni’n blaenoriaethu cwsmeriaid bregus, ac yn gofyn i bobl gymryd beth sydd ei angen arnynt yn unig.

Gall cwsmeriaid:

Ddarllen am yr Estyniad i’r Hysbysiad Berwi Dŵr - Llythyr agored at gwsmeriaid gan ein Prif Weithredwr, Peter Perry.

Cadarnhau a yw’r broblem yn effeithio ar eu cyflenwad nhw trwy ddefnyddio’r gwiriwr cod post yma: https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice

Gweld rhestr o Gwestiynau Cyffredin https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice.

Edrych ar Yn Eich Ardal neu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau pellach.

Mae’n flin gennym am yr anghyfleustra yn sgil y digwyddiad yma.

Digwyddiad i’r Teulu yng Nghasnewydd


Cynhaliodd Dŵr Cymru ddigwyddiad am ddim i’r teulu yn ystod hanner tymor yng Nghanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Roedd dros 30 o sefydliadau partner, gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Mind, OVO Energy, Elusen Ddyled Step Change a Tesco, yn bresennol i roi gwybodaeth am gymorth gyda chostau byw, arbed ynni, iechyd meddwl a llawer mwy. Roedd llawer o weithgareddau llawn hwyl i deuluoedd hefyd gan gynnwys paentio wynebau, celf a chrefft a hyd yn oed troelli platiau!

Roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda thros 300 o gwsmeriaid yn galw heibio yn ystod y dydd.

Dywedodd Jody Perkins, Cynghorydd Hyrwyddiadau: “Rwyf mor falch gyda’r ffordd yr aeth y digwyddiad ddoe. Y nod oedd cynnig rhywle i deuluoedd ddod ynghyd yn ystod hanner tymor i gael gwybodaeth, cymorth a llawer o hwyl.

“Roedd hi’n anhygoel gweld cynifer o bobl yno ac roedden ni’n gallu cynnig llawer o gyngor a chymorth i gwsmeriaid. Mae’r canlyniadau cynnar yn dangos ein bod ni wedi helpu dros 20 o bobl gyda chymorth dyledion ar y diwrnod, a byddwn ni’n ffonio llawer o gwsmeriaid yn ôl er mwyn rhoi ychydig mwy o wybodaeth iddyn nhw. Fe welson ni lawer o gwsmeriaid yn cofrestru ar gyfer mesuryddion dŵr, hefyd.

“Rwyf mor falch fy mod i wedi bod yn rhan o’r diwrnod yma ac i weld yr holl waith caled yn talu ar ei ganfed i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les ariannol ein cwsmeriaid.”

Roedd stondinau Dŵr Cymru yn cynnwys aelodau o’n Timau Cyngor ar Filiau a Dyled, Cwsmeriaid Bregus, Cartref, Cyflogaeth ac Addysg, yr oedd pob un ohonyn nhw’n gallu cynnig cyngor a chymorth gwerthfawr gyda biliau, cofrestru ar gyfer mesuryddion dŵr, a gwella lles ariannol. Roedd yn gyfle gwych i ddangos ein cynllun cymorth ‘Cymuned’ ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio, y cyntaf o’i fath, a’r cymorth y gallwn ni ei gynnig gyda chostau byw.

Mae’r adborth gan sefydliadau partner wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn. Pan ofynnwyd sut y bydden nhw’n disgrifio’r digwyddiad, dywedodd Ethylle Bering o Grŵp Pobl: “Ardderchog, galwodd cymaint o deuluoedd heibio a chawson nhw fagiau llawn o bethau!...Fe ges i gyfle i roi 200 o fylbiau golau sy’n arbed ynni allan hefyd felly gobeithio ein bod ni wedi gallu cefnogi rhai teuluoedd!”