Hydref 2023
Yn ystod y mis, gwnaethom gefnogi Wythnos Genedlaethol Llyfrgelloedd. Y thema oedd “Bywyd Fforddiadwy - Gwyrdd”.
Gwnaethom helpu llawer o gwsmeriaid a ddaeth i ddefnyddio cyfleusterau’r llyfrgell yn ogystal â’r rhai a oedd yn mynychu grwpiau eraill fel Amser Rhigwm, Gweu a Sgwrsio, a Chrefft a Chlonc!
Cynhaliodd Peter, Pennaeth ein Hadran Cwsmeriaid Agored i Niwed, ddiwrnod Gweithdy Strategaeth Cwsmeriaid Agored i Niwed gyda rhai o’n rhanddeiliaid allweddol. Roedd yn gyfle gwych i bawb ddod at ein gilydd a rhannu syniadau am sut y gallwn barhau i gydweithio a chefnogi mwy o gwsmeriaid.
Gwahoddwyd y “Traceys” i ddod i Wobrau Undebau Credyd Cymru yng Nghaerdydd. Roedd hi’n noson wych o ddathlu a rhwydweithio, yn un o’r lleoliadau harddaf – diolch Sandy (Undeb Credyd Cambrian) am ein gwahoddiad.
Fel arfer, gwnaethom barhau i helpu cwsmeriaid yn y gymuned sy'n defnyddio'r fan arddangos. Fodd bynnag, mae “Vera” bellach yn cael seibiant haeddiannol dros fisoedd y gaeaf – cadwch lygad amdani pan fydd hi’n dychwelyd ym mis Ebrill!