Mae Dŵr Cymru yn partneru gyda sefydliadau trydydd sector sy'n gweithredu yng Nghymru a rhannau o Orllewin Lloegr sy'n cynorthwyo aelwydydd sy'n agored i niwed gyda'u cyllid a/neu eu lles.
Gallwn ddarparu atebion i alluogi eich cleientiaid i gael biliau dŵr rhatach a/neu gofrestru AM DDIM am wasanaethau ychwanegol drwy gofrestru ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth. Mae gwybodaeth fanwl ar gael yma.