Tracey Price
Rheolwr Cymunedol Bregusrwydd Cwsmeriaid
Eich enw llawn a theitl eich swydd:
Tracey Price - Rheolwr Cymunedol Bregusrwydd Cwsmeriaid
Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi:
Rwy'n byw gartref gyda fy ngŵr sy'n Blismon wedi ymddeol a dau blentyn (wedi tyfu i fyny). Mae fy mab yn gweithio i'r GIG ac mae fy merch hefyd yn gweithio i Dŵr Cymru erbyn hyn. Pan rydym yn gallu, mae fy ngŵr a minnau wrth fy modd yn mynd ar wyliau yn ein carafán deithiol ledled y DU.
Beth yw diwrnod arferol yn y gwaith i chi?
Rwy’n treulio llawer o fy niwrnod yn nodi cyfleoedd i hyrwyddo cynigion fforddiadwyedd Dŵr Cymru i gwsmeriaid mewn amgylchiadau agored i niwed. Meithrin perthnasoedd newydd a chynnal cysylltiadau presennol â phartneriaid dibynadwy, fel Cymdeithasau Tai, Asiantaethau Cyngor ar Ddyledion, sefydliad elusennol ac ati sy'n eu galluogi i gynnig biliau dŵr rhatach neu wasanaethau diogelu i'w cleientiaid drwy ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.
Beth yn eich barn chi sy'n eich gwneud yn dda yn eich swydd?
Meithrin perthynas waith dda drwy gydweithredu ac uniondeb. Mae'r cydberthnasau hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar ymddiriedaeth. Rwy'n gallu meithrin cysylltiadau iach a phroffesiynol sy'n mynd i'r afael ag unrhyw faterion ac yn eu datrys sy'n annog ac yn hyrwyddo rhagolygon cadarnhaol i'r cwmni.
Dywedwch wrthym am yr hyn yr ydych chi fwyaf balch ohono am eich gwaith:
Rwyf mor ffodus o fod mewn sefyllfa lle rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y gallwn ei wneud i'n cwsmeriaid. Gall cais tariff syml i greu incwm gwario neu ddefnyddio cynllun dyled i ysgafnhau baich ôl-ddyledion gael effaith enfawr ar les a sefyllfa ariannol pobl.
Yr un achlysur sy'n dod i’r cof yw pan gyfarfûm â dynes mewn digwyddiad. Yn ystod ein sgwrs, dywedodd wrthyf sut y daeth i fod mewn cadair olwyn. Roedd hi wedi dioddef cam-drin domestig ac wedi ceisio lloches. Mae'n derbyn cefnogaeth bob awr o’r dydd a’r nos ar gyfer ystod eang o anghenion, mae hi'n alcoholig sy'n gwella ac mae hi’n hunan-niweidio. Ni af i fanylion mwy am hynny, ond cafodd y cyfarfod hwn effaith fawr arnaf. Roeddwn i bron yn teimlo'n annigonol wrth gynnig ein gwasanaethau cymorth. Gallech fod wedi meddwl fy mod i wedi rhoi £1,000 iddi, roedd hi mor ddiolchgar. Dywedodd fy mod i yn ei helpu i wella.