Gallai manteisio ar un o’n cynlluniau cymorth dyled fel y Gronfa Cymorth Dyled Cymorth i Gwsmeriaid atal pryder ynghylch ôl-ddyledion dŵr.
Mae angen i rai cwsmeriaid hefyd ddefnyddio gwasanaethau diogelu fel sianeli cyfathrebu eraill neu gael cyflenwad o ddŵr potel pan fydd y cyflenwad dŵr wedi’i atal. Drwy ymuno â’n Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, gall cwsmeriaid fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol AM DDIM.
I fwrw ymlaen â'ch cais, bydd angen ffurflen 'Prawf o Dystiolaeth' arnoch yn gyntaf, a byddwch yn cael hyn ar ôl i chi gwblhau ein hyfforddiant. Cliciwch yma i archebu eich sesiwn hyfforddi nawr.
Os oes gennych y ffurflen hon eisoes, parhewch â'ch cais drwy glicio ar y ddolen/dolenni perthnasol isod. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â dosbarthu'r ffurflen hon i gydweithwyr nad ydyn nhw wedi cael ein hyfforddiant.
Trwy gwblhau cais am un o'r gwasanaethau cymorth isod, rydych yn cadarnhau eich bod wedi cael caniatâd i gwblhau hyn ar ran y cwsmer.
Gwasanaethau Cymorth Ariannol a Diogelu
-
Mesurydd Dŵr
Gallai tariff dŵr a charthffosiaeth mesuredig ar gyfer cwsmeriaid ar dâl sefydlog blynyddol uchel, neu ar gyfer y rhai nad ydynt yn defnyddio llawer o ddŵr neu’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain, helpu i leihau costau parhaus.
-
Awgrymiadau i arbed dŵr mewncartrefi
Ar y dudalen hon, cewch hefyd gyngor syml ar ffyrdd o fwynhau defnyddio dŵr heb ei wastraffu.
-
Cartref
Atgyweirio gollyngiadau yn eich cartref am ddim.
-
Tariff HelpU
Tariff dŵr a charthffosiaeth ar gyfer aelwydydd incwm isel ar fudd-daliadau prawf modd i leihau taliadau yn y dyfodol.
-
Tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru
Tariff dŵr a charthffosiaeth mesuredig ar gyfer teuluoedd incwm isel sy’n cael budd-dal cymwys; sy’n defnyddio mwy o ddŵr oherwydd bod mwy o bobl ar yr aelwyd, neu’u bod â chyflwr meddygol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt ddefnyddio dŵr ychwanegol.
-
Cymuned
Cynnig cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru. Ei nod yw helpu aelwydydd sy’n gweithio sy’n cael trafferth fforddio’r hanfodion, fel eu bil dŵr.
-
Cynllun Dŵr Uniongyrchol
Mae cofrestru ar gyfer cynllun talu Dŵr Uniongyrchol yn caniatáu i gwsmeriaid glirio ôl-ddyledion a thaliadau parhaus yn uniongyrchol o’u budd-daliadau ar gyfradd fforddiadwy.
-
Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid
Mae’r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid wedi’i chynllunio i helpu’r rhai sydd mewn caledi ariannol difrifol i glirio dyledion a chael rheolaeth dros eu taliadau.
-
Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth
Mynnwch help ychwanegol drwy ddarparu dŵr, rheoli eich biliau a’ch cyfrif, a’ch cadw’n ddiogel yn eich cartref.
Gwasanaethau Eraill sydd ar gael
-
Ymdrin â gollyngiadau dŵr
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i ollyngiad a’i reoli.
-
Ad-daliad dŵr wyneb
Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys i gael ad-daliad dŵr wyneb a sut y gallwch chi wneud cais i gael hynny.
-
Yn eich ardal chi
Gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw eitemau map newydd yn eich ardal chi pan fydd gennym eich cod post.
Cymorth i Gwsmeriaid
Lleihau dyledion a
chael rheolaeth yn ôl
Lleihau dyledion a chael rheolaeth yn ôl. Roedd gan Jo ddyledion dŵr o tua £2,000 pan gysylltodd â ni am gymorth. Roedd ei thaliadau misol tua £166 i gynnwys ei thaliadau dŵr parhaus a’r gost o glirio ei dyled.
Gyda’n cymorth ni, ymunodd Jo â’n Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid i helpu i dalu ei hôl-ddyledion mewn rhandaliadau rhwydd a’n tariff HelpU i sicrhau bod ei thaliadau parhaus yn fforddiadwy; daeth hyn â’i thaliadau i lawr i ychydig dros £24 y mis. Ar ôl dilyn ei chynllun talu am chwe mis, roeddem yn gallu dileu hanner holl ôl-ddyledion Jo, sy’n golygu ei bod hi ar y trywydd iawn i glirio ei dyled.
Tawelwch meddwl gyda
gwasanaethau blaenoriaeth am ddim
Mae gan Adi salwch meddwl difrifol ac mae’n cael trafferth â’i allu ariannol. Caiff ei gefnogi gan Weithiwr Cymdeithasol sy’n gweithredu fel enwebai cofrestredig ar gyfrif Adi.
Gyda chymorth ei Weithiwr Cymdeithasol, gwnaeth Adi gais am ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth am ddim a newid o ddefnyddio cerdyn talu i sefydlu trefniant debyd uniongyrchol ar gyfer ei filiau dŵr. Fel hyn mae Adi wedi gallu cadw ar ben ei daliadau heb orfod cofio gwneud taliadau yn ei siop leol.
Arbed arian trwy newid
i fesurydd dŵr
Mae Eileen yn bensiynwraig sy’n byw ar ei phen ei hun ac yn cael ei chefnogi gan elusen leol ar gyfer ei chostau byw. Roedd Eileen yn talu £45 y mis am ei bil dŵr a charthffosiaeth cyn siarad â ni am newid i fesurydd dŵr.
Gan fod Eileen yn byw ar ei phen ei hun ac nid yw’n defnyddio llawer o ddŵr, roedd yn debygol iawn y byddai’n arbed arian drwy newid i fesurydd dŵr. Gwnaethom osod mesurydd dŵr am ddim ac ers hynny mae biliau misol Eileen wedi gostwng i ddim ond £25, gan arbed tua £240 y flwyddyn iddi.
Capio taliadau
dŵr â mesurydd
Mae Riz yn byw ag anabledd ac yn hawlio budd-daliadau gan nad yw’n gallu gweithio. Roedd ganddi fesurydd dŵr yn ei chartref rhentu, ac roedd ei biliau dros £600 y flwyddyn.
Gwnaethom weithio gyda Riz a’i landlord i’w helpu i fanteisio ar ein tariff WaterSure Cymru, gan gapio ei thaliadau dŵr mesuredig a thalu ei biliau’n uniongyrchol drwy ei budd-daliadau. O ganlyniad, mae taliadau Riz wedi gostwng o £50 i £34 y mis. Ymunodd â’n Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth am ddim hefyd ac mae hi wedi’i diogelu rhag unrhyw ymyriad i’w chyflenwad dŵr..