Cronfa Cymorth Dyled Cymorth i Gwsmeriaid ar gyfer Partneriaid REACH
Bwriad cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yw helpu’r rhai mewn caledi ariannol difrifol i glirio a bod ar ben eu taliadau.
Sut mae’n gweithio?
Os bydd cais eich cwsmer yn llwyddiannus, byddwn yn sefydlu cynllun talu misol, bob pythefnos neu yn wythnosol ar gyfer taliadau’r flwyddyn bresennol.
Pan fydd wedi gwneud taliadau am 6 mis, byddwn yn talu 50% o'r ôl-ddyledion blaenorol.
Os bydd yn gwneud taliadau am 6 mis arall, byddwn wedyn yn talu gweddill yr ôl-ddyledion blaenorol.
Beth yw’r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid?
Sefydlwyd y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid i helpu cwsmeriaid i glirio’u dyledion gyda ni. Os bydd eich cais yn llwyddiannus:
- Byddwn ni’n trefnu cynllun talu fesul mis, pythefnos neu wythnos i’ch helpu chi i gynllunio ar gyfer taliadau’r flwyddyn gyfredol.
- Ymhen 6 mis, os byddwch chi wedi llwyddo i wneud eich taliadau i gyd, byddwn ni’n dileu 50% o’ch dyled.
- Os byddwch chi’n llwyddo i dalu am 6 mis pellach, byddwn ni’n dileu gweddill y ddyled.
Enghraifft o randaliadau
Enghraifft yn unig yw hon – efallai y bydd gan gwsmeriaid randaliadau gwahanol i’r isod.
Ar sail dyled o £550, a bil o £400 ar gyfer y flwyddyn gyfredol:
- Byddai’r rhandaliadau wythnosol yn £7.69 (Bil £400 ÷ 52 wythnos)
- Byddwn yn talu 50% cyntaf (£275) y ddyled ar ôl 26 wythnos.
- Byddwn yn talu'r ail 50% (£275) o'r ddyled ar ôl 52 wythnos..
Os byddant yn cadw i fyny â’r taliadau, dros y flwyddyn byddent wedi talu eu bil a byddem wedi clirio eu dyled.
Dyma gyfle untro. Os byddant yn mynd i ôl-ddyledion eto, ni fyddai cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yn cael ei gynnig.
A yw’n gymwys?
Efallai y bydd yn gymwys os:
- Mae’r cyfrif dŵr ar gyfer eiddo domestig lle mae’n byw ar hyn o bryd.
- Mae mwy na £150 yn ddyledus.
Sylwch mai cronfa ddewisol yw hon ac y bydd eich cymhwystra yn cael ei asesu ar sail eich cais a’ch cyfrif.
Gwneud cais ar-lein
Gwneud cais ar-lein gyda ffurflen cynllun Cymorth Dyled ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid.