Tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru ar gyfer Partneriaid REACH
Os oes gan eich cleient fesurydd eisoes, neu os ydych wedi gofyn am un, mae tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru yn rhoi terfyn ar faint y mae'n rhaid iddynt ei dalu am eu dŵr.
Sut mae'n gweithio?
Mae WaterSure yn rhoi terfyn ar eu bil mesuredig blynyddol felly ni fyddant yn talu dros swm penodol am y flwyddyn, faint bynnag y maen yn ei ddefnyddio.
Cost Taliad Terfyn Bil - WaterSure Cymru o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025 yw £396.68 (£153.66 ar gyfer dŵr, £243.02 ar gyfer carthffosiaeth).
A ydych cleient yn gymwys?
Mae'r cynllun ar gael i gwsmeriaid sydd eisoes â mesurydd dŵr, neu sy'n dewis gosod mesurydd dŵr. I fod yn gymwys, rhaid iddynt fod yn derbyn budd-dal cymwys neu gredyd treth a naill ai:
- 3 neu fwy o blant dan 19 oed sy'n byw yn eu cartref y gallant hawlio Budd-dal Plant ar eu cyfer, neu
- bod ag aelod o'r aelwyd â chyflwr meddygol sy'n gofyn am ddefnydd sylweddol o ddŵr ychwanegol
Budd-daliadau cymwys
Rhaid iddynt fod yn derbyn o leiaf un o'r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Budd-dal Tai
- Credyd Treth Plant (ac eithrio teuluoedd sy'n cael yr elfen deuluol yn unig)
- Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
- Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Cyflyrau meddygol
Gall cyflyrau cyffredin y mae angen defnyddio llawer mwy o ddŵr nag arfer gynnwys:
- Digroeni (clefyd croen sy'n pilio)
- Croen diferol (ecsema, soriasis, briwiau chwyddedig)
- Anymataliaeth
- Stoma'r Abdomen
- Clefyd Crohn
- Methiant Arennol sy'n gofyn am gael dialysis yn y cartref (heblaw pan fo'r awdurdod iechyd yn cyfrannu at gost y dialysis)
Os nad yw eu cyflwr wedi'i restru yma, ond mae’n dal i fod angen cryn dipyn o ddŵr, gallwch roi rhagor o wybodaeth ar y ffurflen gais.
Arall: cyflwr meddygol arall sy'n golygu bod angen defnyddio llawer mwy o ddŵr ychwanegol
Ni fyddant yn bodloni'r gofynion...
- Os nad oes ganddynt fesurydd dŵr wedi'i osod yn eu heiddo. Os hoffent gael mesurydd wedi'i osod i fod yn gymwys, cwblhewch ffurflen gais WaterSure Cymru, gan gynnwys y ffurflen gais am fesurydd ar dudalen 5.
- Os ydynt yn dyfrio eu gardd gydag offer nad ydynt yn ei gario, fel system ddyfrhau domestig neu chwistrellwr.
- Os oes ganddynt bwll nofio neu bwll gyda chynhwysedd o dros 10,000 litr.
- Os nad yr eiddo rydych yn gwneud cais amdano yw eu prif gartref.
- Os yw eu heiddo yn cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol.
- Os ydynt yn rhannu talu eu bil gyda'u cymydog/cymdogion
Sut mae gwneud cais?
Gallwch wneud cais drwy lawrlwytho ein ffurflen gais WaterSure Cymru.
Gwnewch gais am ein
tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru
Gwnewch gais am ein tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru drwy glicio ar y ddolen isod.