Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i roi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf. Mae hynny'n golygu cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas a rhoi cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Arolwg Ymwybyddiaeth a Gwerthuso Ymgyrchoedd

Helpwch ni werthuso effeithiolrwydd yr Ymgyrchoedd drwy lenwi'r cwestiynau canlynol. Diolch am ein helpu i gyrraedd ein cwsmeriaid mwyaf agored i niwed; gyda'n gilydd gallwn wneud cymaint mwy.

Arolwg

Rydyn ni'n ehangu Cymuned!

Yn dilyn adolygiad blynyddol o Cymuned, ein cynnig cymorth ariannol i aelwydydd sy'n gweithio, rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi y byddwn ni’n ehangu'r cynnig i'w wneud yn fwy hygyrch i'n cwsmeriaid cymwys.

Beth sy'n newydd?

Nid yw'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Cymuned wedi newid o aelwydydd gydag o leiaf un oedolyn sy'n gweithio:

  • y mae cyfanswm eu hincwm wedi’i gyfuno yn £50,000 y flwyddyn neu lai,
  • y mae biliau eu haelwyd yn fwy na'u hincwm,
  • nad ydynt yn gymwys ar gyfer tariff cymdeithasol neu gynllun dyled arall Dŵr Cymru.

Fodd bynnag, rydyn ni’n ehangu gallu ein partneriaid dibynadwy i wneud cais ar ran cwsmeriaid, gan ei wneud yn agored i fwy o sefydliadau fel asiantaethau cynghori ar ddyledion, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, a all lenwi asesiad incwm a gwariant.

Dywedodd Tracey Jones, Ymgynghorydd Hyrwyddo: "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i Cymuned. Ers ei lansio, rydyn ni wedi cefnogi dros 213 o gwsmeriaid gyda Cymuned a gyda'r ehangiad, gallwn ni nawr gynnig proses ymgeisio fwy hygyrch i'n cwsmeriaid.

"Rydyn ni wedi gweithio'n galed gyda'n partneriaid gwreiddiol, StepChange, Cymru Gynnes a Cyngor ar Bopeth, i gefnogi llawer o gwsmeriaid hyd yma, felly mae ei agor i fwy o sefydliadau yn golygu y gallwn ni gyrraedd mwy o bobl y mae ei angen arnyn nhw."

Am fwy o wybodaeth am Cymuned a sut i fanteisio ar y gefnogaeth, cliciwch yma.

Diolch

Diolch am eich cefnogaeth barhaus wrth gofrestru ar gyfer un o’n gwasanaethau. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon rydym ni wedi:

  • Cyflwyno 579 o sesiynau hyfforddi/codi ymwybyddiaeth ar draws rhwydwaith o sefydliadau.
  • Derbyn 863 o atgyfeiriadau cleientiaid.
Dysgwch fwy