Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn derbyn cymaint o gymorth â phosibl drwy ein hymgyrchoedd wedi’u targedu.
Gall gwyliau'r haf fod yn amser heriol i deuluoedd, y plant adre o'r ysgol, gwaith ac ymrwymiadau eraill, yn ogystal â gorfod rheoli arian mewn cyfnod o wythnosau sy’n gallu bod yn ddrud.
Sesiwn cymorth ar-lein 'Metime'
Ar 10 a 20 Medi 2024 byddwn yn cynnal dwy sesiwn cymorth ar-lein 'Metime' am ddim mewn partneriaeth â Gofalwyr Cymru. Byddwn ar yr alwad i siarad â gofalwyr a'r rhai sy'n derbyn gofal am yr ystod o gymorth sydd ar gael gennym gan gynnwys gostyngiadau mewn biliau, gwasanaethau blaenoriaeth, awgrymiadau am sut i arbed dŵr ac arian a llawer mwy. Mae sesiynau ar-lein 'Metime' wedi'u cynllunio i hysbysu gofalwyr am eu hawliau a hefyd i gefnogi eu lles
Gall gofalwyr drefnu lle yn y sesiynau trwy ddilyn y ddolen, peidiwch â cholli cyfle.
Diwrnod Ymwybyddiaeth y Samariaid
Diwrnod Ymwybyddiaeth y Samariaid, lle mae pobl ledled y DU ac Iwerddon yn codi ymwybyddiaeth y Samariaid, sydd ar gael 24/7 ar gyfer cymorth iechyd meddwl ar 116 123. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o gymorth yma.
Peidiwch ag anghofio, rydym yn cynnig gwasanaethau blaenoriaeth am ddim os ydych chi neu rywun annwyl yn byw gyda salwch metel.