Awst 2022


Cawsom lawer o hwyl yn Sir Ddinbych ac Ynys Môn yn y Gogledd, yn cefnogi pobl mewn gwahanol ddiwrnodau hwyl i'r teulu ac yn cyrraedd y bobl hynny mewn ardaloedd mwy gwledig hefyd.

Yn sicr, mae mis Awst wedi bod yn fis o bartneriaethau, rydym wedi cael y pleser o weithio gyda llawer o’n ‘ffrindiau’ allan yn y gymuned.

Rydym wedi bod yma ac acw yn cefnogi’r rhai a allai fod yn ei chael hi'n anodd fforddio’r hanfodion; drwy ddosbarthu pecynnau cymorth yn llawn gwybodaeth a chymorth.

Fel y gwelwch chi, mae pethau’n well gyda'n gilydd!