Mehefin 2022
Yng ngogledd Cymru, drwy gydol mis Mehefin, roeddem yn canolbwyntio ar Sir y Fflint.
Roedd y rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn y fan arddangos gymunedol ar gyfer ein "Sioe Deithiol Costau Byw" mewn lleoedd fel Parc Manwerthu'r Fflint, ASDA Queensferry, Parc Manwerthu Brychdyn ac Aldi ym Mwcle.
Roedd y tywydd yn fendigedig a digon o heulwen gynnes braf, a oedd yn galw am un neu ddau hufen iâ i'n hoeri!
Cawsom gyfle i siarad â llawer o bobl a oedd eisiau cyngor ar eu biliau dŵr ac ynni. Diolch i Cymru Gynnes, Nest, Groundwork Gogledd Cymru, Tîm Lles yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyngor ar Bopeth a Woodys Lodge a wnaeth i gyd gefnogi Tracey Jones ar y fan.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i unrhyw un o'r sioeau teithiol neu os hoffech i ni ddod â'r fan i un o'ch digwyddiadau chi, cysylltwch â ni. Gwnaethom hefyd fynd i ddigwyddiadau yn Neuadd Soughton, wedi’u trefnu gan Newcis a Neuadd Bentref Mostyn fel rhan o Sioeau Teithiol Costau Byw.
Mae wedi bod yn fis prysur trwy fis Mehefin i Dîm Cymunedol Cwsmeriaid Agored i Niwed y de. Rydym wedi mynd i galon ein cymunedau i gyrraedd y rhai na allant ein cyrraedd ni.
Bu archfarchnadoedd, partïon darpar rieni, ysgolion, llyfrgelloedd, pantrïoedd bwyd, canolfannau cymunedol, ysbytai a mwy!
Does unman na fyddwn yn mynd i gyrraedd ein cwsmeriaid mwyaf agored i niwed.