Mai 2022
Yn ne Cymru, ein prif bwyslais yn ystod mis Mai oedd gorllewin Casnewydd a phresenoldeb parhaol ledled Rhondda Cynon Taf.
Rydym wedi bod yn teithio yn ein 'Bws Mawr Glas' i gymunedau i gefnogi cymaint o deuluoedd ag y gallwn.
Rydym hefyd wedi bod yn ymweld â lleoliadau mwy personol fel 'pantrïoedd' a 'Hybiau' i gyrraedd y bobl hynny na allant ein cyrraedd ni. Gwnaethom ymuno â sefydliadau lleol ac amrywiol fel MIND, y GIG, PowerUp, Cartrefi Melin, Cysylltwyr Cymunedol Byddin yr Iachawdwriaeth, Cymru Gynnes, Cyngor Casnewydd ac yn fwyaf diweddar RE:Make i enwi ond ychydig.
Gwnaethom hefyd gymryd rhan mewn diwrnod gyda MIND yng nghanol dinas Casnewydd a chynnal cymhorthfa biliau ar gyfer y defnyddwyr a hefyd digwyddiad 'Tlodi Tanwydd' yn Hwb y Gorllewin.
Yng ngogledd Cymru, cynhaliwyd digwyddiad gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn Rhuthun yn cefnogi "Wythnos Arbed Dŵr", lle ymunodd amryw o gydweithwyr o bob rhan o'r busnes â ni. Buom hefyd yn bresennol mewn Grŵp Undeb Mamau yn Llandrillo-yn-Rhos, llyfrgelloedd yn Abermaw a Dolgellau yn ein fan gymunedol, lle ymunodd Cymru Gynnes, Nyth a CAB â ni. Drwy gydol y mis, cynhaliwyd sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth amrywiol hefyd i nifer o sefydliadau.