Tachwedd 2022


Mae'r tymheredd wedi gostwng ers mis Tachwedd, ac mae aelwydydd sy'n cael trafferth gyda chostau yn cynyddu yn cael eu gwahodd i lefydd sy'n gynnes ac am ddim dros y gaeaf.

Yn ogystal â’r Ysgolion, Canolfannau Cymunedol, Canolfannau Gwaith, Banciau Bwyd a Digwyddiadau Costau Byw arferol, rydym hefyd wedi ymweld â llawer o leoliadau 'Croeso Cynnes' ledled Cymru.

Rydym wedi bod wrth law i gynnig sgwrs gyfeillgar a chefnogaeth i gwsmeriaid a allai fod yn ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion, biliau a chysuron cartref dros gyfnod yr ŵyl.