Yn Dŵr Cymru Welsh Water, rydyn ni wedi ymrwymo i roi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf. Er mwyn cynorthwyo’r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas, rydyn ni’n cydweithio’n agos â sefydliadau partner. Mae cydweithio’n ein helpu ni i sicrhau y gallwn barhau i helpu’r bobl fwyaf anghenus.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’n sefydliadau partner, yn hollol rad ac am ddim, ac mae’r rhain yn gallu cael eu darparu’n rhithiol neu wyneb yn wyneb. Mae gweithio gyda phartneriaid fel hyn eu hymbweru nhw i gyrraedd cwsmeriaid a allai elwa o gael cymorth trwy ein cynlluniau.
Gallwch gael rhagor o fanylion am y gwasanaethau a gynigiwn trwy ddewis yr opsiynau isod:
Mae ein gwasanaethau Cymorth Am Ddim yn cynnwys:
Mae ein hyfforddiant i bartneriaid dibynadwy’n cwmpasu ein holl wasanaethau cymorth a phrosesau ymgeisio ar lein.
Bydd cyflawni’r hyfforddiant rhad ac am ddim yma’n eich taclu â’r wybodaeth angenrheidiol i ddilysu ac ymgeisio am un neu ragor o’n hopsiynau cymorth ar ran eich cwsmer.
Bydd yr hyfforddiant yma’n helpu i gynnal eich amcanion o ran cynhwysiant ariannol, gan gynnig gostyngiad posibl yn y taliadau ar gyfer cwsmeriaid cymwys, a’r cyfle i gynyddu eu hincwm gwario.
Yn ogystal â’r uchod, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant wedi ei deilwra’n arbennig at anghenion eich sefydliad. Gallai hynny gynnwys:
- Trosolwg o’n gwahanol wasanaethau cymorth, sy’n eich galluogi chi i bwyntio cwsmeriaid i’r cyfeiriad iawn.
- Cyrsiau atgoffa i’r rhai sydd wedi cael ein hyfforddiant i bartneriaid dibynadwy yn y gorffennol.
- Diweddariad ar ein prosesau ymgeisio ar lein a’n platfform Reach.
Trefnwch gysylltiad uniongyrchol â’n tîm Cwsmeriaid Bregus yn y Gymuned. Byddwn ni’n arddangos ac yn cyflwyno gwybodaeth am ein hamrywiaeth o wasanaethau cymorth mewn cynadleddau a digwyddiadau.
Os ydych chi’n trefnu digwyddiad, gallwn addasu ein gwasanaethau at eich anghenion naill ai wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.
Rhwng Ebrill a Hydref, rydyn ni’n defnyddio ein fan arddangos gymunedol “Vera” hefyd, ac mae hi ar gael i fynychu eich digwyddiadau os oes digon o le iddi ac os yw hi’n rhydd ar y diwrnod
Beth am ein gwahodd ni i’ch cyfarfod fel siaradwr gwadd, naill ai wyneb yn wyneb neu’n rhithiol, er mwyn i ni gyflwyno gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael.
Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar, sydd wedi cael hyfforddiant pwrpasol yn mynychu apwyntiadau cwsmeriaid fesul un, wedi eu trefnu gennych chi, er mwyn cynnig mynediad uniongyrchol at ein gwasanaethau.
Gellir gwneud hyn wyneb yn wyneb neu trwy ein proses cyfeirio galwadau, a gall gynnwys ni’n llenwi ffurflenni ar ran cwsmeriaid, cymorth i drefnu gostyngiad posibl mewn taliadau, mynediad at ein gwasanaethau blaenoriaeth rhad ac am ddim, a chyngor ar ddefnyddio dŵr yn effeithlon.
Er mwyn sicrhau bod ein staff yn darparu’r cymorth mwyaf effeithiol ar gyfer ein cwsmeriaid, rydyn ni’n croesawu sefydliadau eraill i gyflwyno sgyrsiau codi ymwybyddiaeth i ni.
Mae’r sesiynau rhithiol rhyngweithiol yma’n cynnwys cyflwyniad deg munud o hyd gan sefydliadau partner, gyda’r opsiwn i gydweithwyr ofyn cwestiynau wedyn.
Ymhlith y sefydliadau sydd wedi cymryd rhan yn y gorffennol ac sydd wedi elwa ar godi ymwybyddiaeth Dŵr Cymru am eu gwaith mae’r NSPCC, Cyngor Ar Bopeth, Ymddiriedolaeth Afu Prydain, Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, Age Cymru, a MIND.
Cofrestrwch ar gyfer ein Gwasanaethau Cymorth
Diolch am eich diddordeb mewn gwneud cais am ein gwasanaethau cymorth am ddim. Cliciwch isod i wneud cais a bydd un o’n tîm yn cysylltu.
Cliciwch ymaEin Partneriaid
Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid dibynadwy i sicrhau ein bod yn parhau i helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf. I weld rhestr lawn o'n partneriaid, cliciwch isod.
Cael gwybod mwy