Cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid
Bwriad cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yw helpu’r rhai mewn caledi ariannol difrifol i glirio a bod ar ben eu taliadau.
Sut mae’n gweithio?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n trefnu cynllun talu fesul mis, pythefnos neu wythnos ar gyfer taliadau’r flwyddyn gyfredol.
Pan fyddwch wedi gwneud taliadau am 6 mis, byddwn ni’n dileu 50% o’ch dyled flaenorol.
Os byddwch chi’n gwneud taliadau am 6 mis arall, byddwn ni’n talu gweddill eich dyled flaenorol.
Beth yw’r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid?
Sefydlwyd y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid i helpu cwsmeriaid i glirio’u dyledion gyda ni. Os bydd eich cais yn llwyddiannus:
- Byddwn ni’n trefnu cynllun talu fesul mis, pythefnos neu wythnos i’ch helpu chi i gynllunio ar gyfer taliadau’r flwyddyn gyfredol.
- Ymhen 6 mis, os byddwch chi wedi llwyddo i wneud eich taliadau i gyd, byddwn ni’n dileu 50% o’ch dyled.
- Os byddwch chi’n llwyddo i dalu am 6 mis pellach, byddwn ni’n dileu gweddill y ddyled.
Enghraifft o randaliadau
Enghraifft yn unig yw hon – efallai y bydd gan gwsmeriaid randaliadau gwahanol i’r isod.
Ar sail dyled o £550, a bil o £400 ar gyfer y flwyddyn gyfredol:
- Byddai eich rhandaliadau wythnosol yn £7.69 (bil o £400 ÷ 52 wythnos)
- Rydym yn talu 50% cyntaf (£275) eich dyled ar ôl 26 wythnos.
- Rydym yn talu ail 50% (£275) eich dyled ar ôl 52 wythnos.
Os byddwch yn gwneud eich taliadau’n brydlon dros y flwyddyn, byddech chi wedi talu eich bil a byddwn ni wedi clirio’r ddyled.
Dyma gyfle untro. Os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion eto, ni fyddai cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yn cael ei gynnig.
Ydych chi’n gymwys?
Efallai y byddwch chi’n gymwys:
- Os yw eich cyfrif dŵr ar gyfer yr eiddo domestig lle’r ydych chi’n byw ar hyn o bryd.
- Os yw eich dyled yn fwy na £150.
Sylwch mai cronfa ddewisol yw hon ac y bydd eich cymhwystra yn cael ei asesu ar sail eich cais a’ch cyfrif.
Gwnewch gais ar-lein am
gynllun Cymorth Dyled ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid
Gallwch wneud cais ar-lein gyda ffurflen cynllun Cymorth Dyled ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid. Trwy lenwi’r ffurflen hon, rydych chi’n caniatáu i ni wirio eich sgôr credyd. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich statws credyd, ond bydd yn gadael ôl.
Os nad ydych chi am i ni wirio eich sgôr credyd, cewch drefnu apwyntiad i lenwi ffurflen gais gyda’ch swyddfa Moneyline Cymru neu Cyngor ar Bopeth.
Pan fyddwn wedi derbyn eich cais, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a yw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio cyn pen 5 diwrnod gwaith.