Sut yr ydym yn gweithio gydag asiantaethau cyfeirio credyd
Ers 2010, mae gan gwmnïau dŵr ganiatâd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac OFWAT i rannu data gydag Asiantaethau Gwirio Credyd fel Experian, Callcredit ac Equifax.
Beth yw Asiantaeth Gwirio Credyd?
Mae asiantaethau gwirio credyd (CRAs) yn casglu ac yn cadw gwybodaeth am ymddygiad credyd defnyddwyr a busnesau ar ran sefydliadau yn y DU.
Pam ydych chi'n rhannu data ag Asiantaethau Gwirio Credyd?
Byddwn ni'n rhannu data amdanoch ag Asiantaethau Gwirio Credyd ac Asiantaethau Atal Twyll er mwyn deall ein cwsmeriaid yn well a helpu:
- i reoli eich cyfrif
- i deilwra'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a ddarparwn ar eich cyfer yn well
- i glustnodi arwyddion cynnar o galedi ariannol fel y gellir cynnig cymorth priodol
- i helpu i atal gor-ddyledion
- i ddilysu pwy ydych chi er mwyn helpu i atal twyll.
Sut bydd rhannu’r data'n effeithio arnaf i?
Os ydych chi’n talu'n brydlon, dylai rhannu gwybodaeth am y ffaith eich bod chi’n talu biliau dŵr yn rheolaidd wneud cyfraniad positif at adeiladu hanes credyd da. Gallai hyn helpu rhai cwsmeriaid i gael gwasanaethau a chynhyrchion credyd ac ariannol mwy ffafriol hefyd.
Os nad ydych chi’n talu’n brydlon, mae hynny'n debygol o effeithio ar eich sgôr credyd, a gallai olygu eich bod yn cael eich gwrthod am gredyd.
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil, mae'n bosibl y gallwn ni helpu, naill ai trwy leihau eich biliau yn y dyfodol neu trwy gynllun talu. Mae hi'n bwysig eich bod chi'n rhoi galwad i ni i drafod y peth ar 0303 3130022.
A yw hyn yn cydymffurfio â'r Gyfraith Diogelu Data?
Mae Dŵr Cymru ac Experian yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 bob amser. Nid oes angen eich caniatâd i rannu eich gwybodaeth ag Asiantaethau Gwrio Credyd. Mae'r data'n cael ei rannu er mwyn helpu Dŵr Cymru i gasglu dyledion. Mae'n helpu sefydliadau eraill yn y cynllun i atal drwgddyledion neu ddyledion heb eu talu, atal twyll a gwyngalchu arian, ac i hybu benthyca cyfrifol.
Pwy sy'n gallu cyrchu neu weld fy nata personol?
Bydd eich gwybodaeth bersonol ar gael i aelodau'r cynllun rhannu sy'n cael ei weinyddu gan Experian a neb arall. Mae'r cynllun rhannu gwybodaeth yn cael ei reoleiddio'n ofalus o dan y gyfraith, ac o dan reolau tynn y sefydliadau sy'n rhannu'r wybodaeth.
Rydw i wedi cael Hysbysiad o Fwriad i Ddiffygdalu, beth ddylwn i ei wneud?
Nid yw hi’n rhy hwyr i gymryd camau, ond mae angen i chi wneud hynny nawr.
Cysylltwch â ni heddiw ar 0303 3130022. Rydyn ni yma i helpu, ac mae gennym nifer o gynlluniau a allai eich helpu chi i leihau eich biliau at y dyfodol. Gallwch gael rhagor o fanylion trwy fynd i Cymorth i Dalu fy Mil. Mae'n bosibl y gallwn gytuno ar gynllun talu at y dyfodol hefyd.
Cysylltwch â’n tîm dyledion
Siaradwch â chynghorydd
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.
8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.
Sut gallaf i weld fy adroddiad credyd?
Gall Experian ddarparu copi o'ch adroddiad statudol i chi am £2. Gallwch wneud cais naill ai trwy fynd i www.experian.co.uk neu trwy'r post:
Experian Ltd
Customer Support Centre
PO Box 8000
Nottingham
NG80 7WF
Ffôn: 0844 481 8000
(cyfeiriwch at wefan Experian am fanylion costau ffonio)
Beth ddylwn i ei wneud os gwelaf i gamsyniad ar fy adroddiad credyd?
Gallwch godi anghydfod trwy fynd i wefan Experian a llenwi eu online enquiry form. Os ydych chi'n meddwl bod Dŵr Cymru wedi gwneud camsyniad sydd wedi effeithio ar eich adroddiad credyd, cysylltwch â ni ar 0303 313 0022.
Ble gallaf i droi am ragor o wybodaeth?
Mae rhagor o fanylion yn ein taflenni Dŵr Cymru i Chi.