Methdaliad
Mae'n bosibl, mewn rhai sefyllfaoedd, i ni wneud cais i wneud rhywun yn fethdalwr er mwyn adennill dyled. Anaml iawn y gwnawn ni hyn. Mae'n ddewis pan fetho popeth arall, a byddem ond yn ei ystyried o dan yr amgylchiadau mwyaf eithafol. Ond, mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth mae'r gyfraith yn caniatáu i ni ei wneud.
Os hoffech drafod ad-daliad dylech gysylltu â ni ar unwaith. Os yw Deiseb Methdaliad wedi'i chyflwyno, bydd ein holl gostau sy'n gysylltiedig â'r achos methdaliad yn cael eu hychwanegu at werth cyffredinol y ddyled a'u hawlio oddi wrthych.
Pam y cyflwynwyd Deiseb Methdaliad i mi?
Mae rheolau ansolfedd yn ein gorfodi i gyflwyno'r ddeiseb i chi. Rydych naill ai wedi gwneud cynnig talu sy’n annerbyniol i ni neu nid ydych wedi ymateb i'r Hawliad Statudol.
Beth petawn i’n herio’r hawliad?
Os ydych yn dymuno herio'r archeb yna mae'n rhaid i chi wneud hynny yn y llys a nodir ar y ddogfen o fewn 18 diwrnod i'r dyddiad y cafodd y ddeiseb ei chyflwyno.
Pam ydw i wedi cael Archeb Statudol?
Mae'n ofynnol i ni dan reolau ansolfedd anfon yr Archeb Statudol atoch cyn y gallwn wneud cais am eich methdaliad pan fyddwn yn cyflwyno Deiseb Methdaliad.
O'r dyddiad y cyflwynir yr Archeb Statudol, mae gennych 21 diwrnod i naill ai ad-dalu'r ddyled, gwneud trefniadau i warantu'r ddyled neu gytuno ar gynllun rhandaliadau. Os byddwch yn methu â gwneud hyn yna gallwn ddeisebu (gwneud cais) am eich methdaliad.
Cysylltwch â’n tîm dyledion
Siaradwch â chynghorydd
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.
8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.