Cynllun Cymorth Dyled Dŵr Uniongyrchol
Os ydych yn dioddef caledi ariannol ac mae arnoch arian i ni, gall cynllun Dyled Dŵr Uniongyrchol helpu chi trwy dalu eich taliadau dŵr a’ch dyled trwy eich budd-daliadau. Mae hyn yn golygu y bydd eich ôl-ddyledion yn lleihau yn raddol, gan eich helpu chi i gael rheolaeth dros eich arian.
Sut mae’n gweithio?
Rydyn ni’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i’ch galluogi chi i dalu eich taliadau dŵr trwy eich budd-daliadau os ydych chi’n dewis gwneud hynny.
Mae hyn yn golygu:
- Ni fyddwch yn methu eich taliadau
- Ni fydd angen i ni gymryd camau i adfer yr arian
- Mae’n hwylus, am fod y taliadau’n cael eu codi o’ch budd-daliadau yn awtomatig
Disgownt o £25 ar y swm sy’n ddyledus
Dyma esiampl
Enghraifft yn unig yw hyn a gall rhandaliadau cwsmeriaid fod yn wahanol i’r isod.
Math o Dâl | Swm |
---|---|
Taliadau’r flwyddyn gyfredol | £300 |
Disgownt | -£25 |
Dyledion | £250 |
Cyfanswm | £525 |
Byddem yn ymestyn y cyfanswm dros 52 wythnos, felly gan gynnwys y gostyngiad byddech yn talu £8.99 yr wythnos a byddwch heb ddyled ar ddiwedd y cynllun.
Ydych chi’n gymwys?
Gallech chi fod yn gymwys:
- Os yw eich cyfrif dŵr ar gyfer yr eiddo domestig lle’r ydych chi’n byw ar hyn o bryd
- Os oes gennych ddyled sy’n fwy na £50
- Os ydych chi’n derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Credyd Cynhwysol
Gwnewch gais ar-lein am
ein cynllun Dyled Dŵr Uniongyrchol
Trwy lenwi’r ffurflen hon, rydych chi’n rhoi caniatâd i ni gyflwyno cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich rhan.
Cewch wybod a fu’ch cais yn llwyddiannus ai peidio cyn pen 6 i 8 wythnos ar ôl i chi gyflwyno’r cais. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n cadarnhau swm eich taliadau.
Os oes angen i chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau’n uniongyrchol, darllenwch sut i gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau.