Ein Strategaeth Bregusrwydd newydd hyd at 2030


Rydym yn falch o gyflwyno ein strategaeth bregusrwydd newydd 'Cefnogi Ein Cwsmeriaid'.

Mae wedi’i datblygu trwy ymgynghori a thrafod gyda chwsmeriaid, y sefydliadau sy'n eu cynrychioli, ein timau sy'n gweithio gyda chwsmeriaid bob dydd, ein Grŵp Her Annibynnol a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr.

Rydym yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol a ddefnyddir gan dros 3 miliwn o bobl, sy'n dibynnu arnom i ddarparu dŵr yfed glân a diogel ac i fynd â’u dŵr gwastraff i ffwrdd yn ddiogel. Yn anffodus, bydd rhai o'n cwsmeriaid yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at y gwasanaethau hyn ac, yn y sefyllfaoedd hyn, mae'n hanfodol ein bod yn gallu ymateb yn gyflym gyda'r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.

Mae'r trafodaethau hyn wedi dangos bod ein dull presennol o ddarparu cymorth ychwanegol wedi gweithio'n dda, ac y dylem barhau i ganolbwyntio ar ddata, gan wneud ein gwasanaethau mor hygyrch â phosibl, datblygu ein partneriaethau a hyfforddi ein pobl i gydnabod ac ymateb i anghenion unigol ein cwsmeriaid.

Fel mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos, mae angen i ni ymateb yn gyflym i fyd sy'n newid yn gyflym. Bydd y profiad hwn yn ein gwasanaethu'n dda wrth gyflawni'r cam nesaf hwn yn ein strategaeth ar gyfer cefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol.