Rhybudd Berwi Dŵr

Updated: 10:00 27 November 2024

PWYSIG: Rydym wedi cyhoeddi Hysbysiad Berwi Dŵr sy’n effeithio ar gwsmeriaid sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol:  Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli, Tonypandy a rhannau o Ystrad.

Yn sgi Storm Bert, mae llifogydd helaeth wedi effeithio ar Waith Trin Dŵr Tynywaun yn Nhreherbert.

Mae hyn yn golygu ein bod bellach wedi rhoi hysbysiad ‘berwi dŵr’ rhagofalus i gartrefi yn ardaloedd Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli a Thonypandy.

Gofynnwn i bob cwsmer ferwi eu dŵr ar unwaith cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi ond rydym yn gweithio i adfer cyflenwadau yn ôl i normal cyn gynted â phosibl.

Rydym wedi dosbarthu dŵr potel i gwsmeriaid ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a chartrefi gofal tra hefyd yn gweithio gyda safleoedd allweddol fel ysbytai.

Hysbysiad Berwi Dŵr - Llythyr agored i’n cwsmeriaid gan ein Prif Weithredwr Peter Perry.

Gorsafoedd poteli dwr

Mae gorsafoedd poteli dŵr yn cael eu sefydlu i gynorthwyo ein cwsmeriaid yn dilyn yr hysbysiad 'berwi dŵr' ar gyfer ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf.

Rydym yn blaenoriaethu cwsmeriaid bregus, ac yn gofyn i bobl gymryd yr hyn sydd ei angen arnynt yn unig.

Mae gorsafoedd poteli dwr wedi eu sefydlu ac mae'n nhw ar agor yn y lleoliadau yma:

  • Stad Ddiwydiannol Ynyswen, Ffordd Ynyswen, Treorci, CF42 6ED.
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Parc Gelligaled, Ffordd Tyntyla, Ystrad, CF41 7SY.
  • Co-op, Ffordd yr Orsaf, Treorci, CF42 6UA.

Gall cwsmeriaid wirio a effeithir ar eu cyflenwad trwy ddefnyddio gwiriwr cod post ar ein gwefan: https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice

Gall unrhyw gwsmeriaid yr effeithir arnynt gael mynediad at gyngor ar ein gwefan sy'n cynnwys rhestr o Gwestiynau Cyffredin.

Edrychwch ar wefan Yn Eich Ardal neu edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.

Carol Weatherley

Rheolwr Iechyd y Cyhoedd


Rheolwr Iechyd y Cyhoedd

Dŵr Cymru Welsh Water

Ebost: carol.weatherley@dwrcymru.com