Cynhadledd WHP 2023
Dyddiad: Dydd Iau 9 Tachwedd 2023
Lleoliad: Canolfan Gynadledda Cefn Lea, Y Dre Newydd
Cynhaliwyd y digwyddiad eleni ym Mharc Cynadledda Cefn Lea yn y Drenewydd, ar 9 Tachwedd.
Roedd y gynhadledd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn a ddaeth â gweithwyr proffesiynol o wahanol sectorau ynghyd. Roedd y gynhadledd yn llwyfan ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, rhwydweithio a thwf proffesiynol.
Aeth cydweithwyr ati i ail-ymgyfarwyddo â'r Cynllun Rheoli Digwyddiadau Dŵr a chawsant gyfle i nodi a thrafod syniadau ar gyfer gwella yn ystod gweithdy wedi'i seilio ar senario.
Hoffem ddiolch i bawb am ddod, a diolch arbennig i'n siaradwyr gwadd. Isod mae agenda lawn y gynhadledd gan gynnwys cyflwyniadau’r dydd.
Cynhadledd WHP 2022
Dyddiad: Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022
Lleoliad: Canolfan Gynadledda Cefn Lea, Y Drenewydd
Ar ôl 2 flynedd heb gwrdd â’n gilydd roeddem wrth ein boddau i gynnal ein Cynhadledd Partneriaeth Iechyd Dŵr yn 2022. Cynhaliwyd y gynhadledd ym Mharc Cynadledda Cefn Lea yn y Drenewydd, ychydig yn hwyrach nag arfer, ar 30 Tachwedd.
Cafwyd rhai trafodaethau defnyddiol iawn rhwng cydweithwyr ac un o ganlyniadau’r gweithdy yw’r ymrwymiad i ffurfio grŵp tasg a gorffen Digwyddiadau Dros Do newydd. Un o amcanion y grŵp fydd adolygu ac ailgyflwyno’r ddogfen Canllawiau’r Bartneriaeth Iechyd Dŵr ar gyfer Digwyddiadau Dros Dro. Gallwch fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y grŵp newydd yma.
Hoffem ddiolch i bawb am ddod, a diolch yn arbennig i’n siaradwyr gwadd. Isod ceir agenda lawn y gynhadledd gan gynnwys y cyflwyniadau ar y dydd.
Cynhadledd WHP 2019
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Medi 2019
Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd
Cynhaliwyd digwyddiad eleni ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar 18 Medi 2019. Yn y gynhadledd cafwyd cyfraniadau gan amrywiaeth o siaradwyr gan gynnwys Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Morol Llywodraeth Cymru, ar weledigaeth y llywodraeth ar gyfer y sector, yn ogystal â’r Athro John Fawell ar yr heriau sy’n dod i’r amlwg yn ymwneud â dŵr ac iechyd y cyhoedd. Cafwyd diweddariad hefyd gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, a gan Refill Cymru, ar gynnydd menter Refill eleni. Daeth y digwyddiad i ben gyda sylwadau gan yr Athro Stephen Palmer.
Hoffwn ddiolch i bawb am fod yn bresennol, ac yn arbennig i’n siaradwyr gwadd. Isod mae’r agenda lawn ar gyfer y diwrnod gan gynnwys y cyflwyniadau a’r allbynnau o’r Gynhadledd.
Achlysur Blynyddol Partneriaeth Iechyd Dŵr Cymru
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Medi 2018
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Rydyn ni'n trefnu Achlysur Blynyddol bob blwyddyn. Nod y gynhadledd yw dangos gwaith y Bartneriaeth a chadw mewn cysylltiad â'n holl gydweithwyr.
Bu achlysur eleni'n llwyddiant ysgubol a chafwyd adborth cadarnhaol gan y dirprwyon. Islaw mae agenda lawn y diwrnod gan gynnwys cyflwyniadau ac allbwn yr Achlysur.
Achlysuron Partneriaid
Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) - Gweminar, cyflenwadau bach o ddŵr yfed
Hoffai WHO eich gwahodd i weminar lansio canllawiau diwygiedig Sefydliad Iechyd y Byd ar gyflenwadau bach o ddŵr yfed ac offer archwilio glanweithiol cysylltiedig – offeryn ategol ar gyfer y Canllawiau.
Bydd cyfranogwyr yn cael ymwybyddiaeth o nodweddion allweddol y Canllawiau a'r offer, yn cyfnewid gwybodaeth gydag arbenigwyr ac ymarferwyr ar weithredu'r argymhellion a'r canllawiau, ac yn cael mewnwelediad i ymdrechion sydd ar y gweill i gefnogi gweithredu'r canllawiau ymhellach.
I gofrestru - ac I gael y rhestr o siaradwyr - Cliciwch yma.
Cyfarfod â Phwyslais: Beth sy’n Newydd mewn Cryptosporidiwm?
Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Cyfeirio Cryptosporidiwm, ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a’r Gymdeithas Meicrofioleg.
Dyddiad: Dydd Llun a Dydd Mawrth 6 a 7 Gorffennaf
Lleoliad: Campws y Bae Prifysgol Abertawe
Mae’r Uned Cyfeirio Cryptosporidiwm yn trefnu cynhadledd ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a’r Gymdeithas Meicrofioleg yn Abertawe ar 6 a 7 Gorffennaf 2020.
Mae’r gynhadledd yn cynnwys hanner diwrnod ar 6 Gorffennaf yn canolbwyntio ar agweddau amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus, a bydd 7 Gorffennaf o ddiddordeb ychwanegol i’r rhai hynny sy’n ymdrin â’r agweddau gwyddonol.
I weld yr agenda a’r dudalen digwyddiadau, cliciwch yma.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mae’r Gymdeithas Meicrofioleg wedi trydar amdano yma.