$name
-
Cyngor y Defnyddwyr Dŵr yng Nghymru
Cyngor y Defnyddwyr Dŵr yw llais annibynnol holl ddefnyddwyr dŵr Cymru a Lloegr
-
Hafren Dyfrdwy
Mae Hafren Dyfrdwy, sy'n cymryd ei enw o ddwy brif afon yr ardal, yn tynnu ynghyd yr holl gwsmeriaid yng Nghymru a oedd yn arfer cael eu gwasanaethau gan Severn Trent a Dee Valley Water.
-
Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI)
Prif swyddogaeth DWI yw sicrhau bod cwmnïau dŵr Cymru a Lloegr yn cyflenwi dŵr yfed diogel sy'n dderbyniol i'r defnyddwyr ac sy'n bodloni'r safonau a bennir gan y gyfraith.
-
Dŵr Cymru
Dŵr Cymru yw'r mwyaf ond pump o chwe chwmni dŵr a charthffosiaeth reoledig Cymru a Lloegr. Mae'n gyfrifol am ddarparu cyflenwadau dŵr yfed tair miliwn o bobl mewn 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau.
-
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Adran annibynnol o'r Llywodraeth yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac fe'i sefydlwyd yn 2000 i amddiffyn iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.
-
Awdurdodau Lleol
Sefydliadau'r llywodraeth yw'r Awdurdodau Lleol ac maent yn gyfrifol am yr holl wasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus mewn ardal benodol.
-
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau ac adnoddau naturiol Cymru'n cael eu cynnal a'u defnyddio mewn ffordd gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol.
-
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru darparu cyngor a gwasanaethau proffesiynol ac annibynnol ar iechyd y cyhoedd.
-
Water Regulations UK Limited (Water Regs UK)
Mae Water Regs UK yn cefnogi cwmnïau dŵr yn eu rôl wrth ddarparu cyflenwadau dŵr diogel a gwydn yn y DU.
-
WaterSafe
Cyfleuster chwilio ar lein rhad ac am ddim sy'n cael ei ariannu gan y diwydiant dŵr er mwyn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i blymwyr medrus a chymwys yw WaterSafe.
-
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Dan arweiniad Prif Weinidog Cymru, mae'n gweithio ar draws y meysydd datganoledig, sy'n cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.