Cyngor y Defnyddwyr Dŵr yng Nghymru


Cyngor y Defnyddwyr Dŵr yw llais annibynnol holl ddefnyddwyr dŵr Cymru a Lloegr Fe'i sefydlwyd yn 2005 i ddarparu cynrychiolaeth gref ar gyfer defnyddwyr, gan sicrhau bod eu buddiannau wrth galon y penderfyniadau y mae’r diwydiant dŵr yn eu gwneud.

Mae'n cynnig cyngor am ddim i ddefnyddwyr ac yn rhannu gwybodaeth â nhw am faterion sy'n effeithio ar wasanaethau dŵr a charthffosiaeth.

Y Cyngor sy'n delio â chwynion cwsmeriaid domestig ac annomestig pan nad ydynt yn gallu eu datrys yn uniongyrchol gyda'u cwmni dŵr. Mae'n datrys 70% o gwynion cyn pen 20 diwrnod gwaith, ac 85% cyn pen 40 diwrnod gwaith. Mae ei waith yn costio rhyw 21c y flwyddyn i bawb sy'n talu biliau dŵr.

Darganfod mwy.