Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI)


Prif swyddogaeth DWI yw sicrhau bod cwmnïau dŵr Cymru a Lloegr yn cyflenwi dŵr yfed diogel sy'n dderbyniol i'r defnyddwyr ac sy'n bodloni'r safonau a bennir gan y gyfraith.

Bob dydd, mae'r cwmnïau'n profi'r dŵr tap. Mae ein harolygwyr yn dilysu'r profion hyn yn annibynnol ac yn archwilio labordai'r cwmnïau dŵr. Os oes unrhyw un o'r miliynau o brofion y flwyddyn yn methu'r safonau, yna bydd ein harolygwyr yn defnyddio eu pwerau i fynnu bod y cwmni dŵr yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol i wella ansawdd y dŵr yfed. Mae ein harolygwyr yn mynd allan i safleoedd er mwyn sicrhau bod y gwaith gwella'n cael ei gwblhau'n brydlon. Maen nhw'n archwilio'r agweddau ar y gweithrediadau dŵr sy'n sicrhau bod dŵr yfed yn ddiogel bob amser hefyd.

Yn achlysurol iawn, mae pethau'n mynd o chwith. Pan fo hynny'n digwydd, ein gwaith ni yw ymchwilio i'r mater, a pharatoi adroddiad annibynnol ar achos y digwyddiad ynghyd ag argymhellion am sut i atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Weithiau mae ein hymchwiliadau i ddigwyddiadau'n arwain at erlyn cwmni dŵr. Yn ogystal, pan fo cwmni dŵr yn methu â datrys cwyn am ansawdd dŵr yfed, yna gall y defnyddiwr ddod atom ni am gymorth.

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Gweinidogion Cymru sy'n penodi'r Prif Arolygydd Dŵr Yfed, ac mae'n gweithredu'r annibynnol ar ran yr awdurdodau hyn. Mae pwerau penodol wedi eu breinio'n uniongyrchol yn y Prif Arolygydd Dŵr Yfed. Pennir y ddeddfwriaeth yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003. Mae rheoleiddwyr cyfatebol yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Darganfod mwy.