Dŵr Cymru
Dŵr Cymru yw'r mwyaf ond pump o chwe chwmni dŵr a charthffosiaeth reoledig Cymru a Lloegr. Mae'n gyfrifol am ddarparu cyflenwadau dŵr yfed tair miliwn o bobl mewn 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau.
'Cwmni nid-er-elw' yw Dŵr Cymru sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gan y cwmni, ac mae'r holl elw ariannol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.