Awdurdodau Lleol


Sefydliadau'r llywodraeth yw'r Awdurdodau Lleol ac maent yn gyfrifol am yr holl wasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus mewn ardal benodol.

O ran dŵr, yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddilysu diogelwch a digonolrwydd yr holl gyflenwadau dŵr yn eu hardal. Yn achos cyflenwadau dŵr cyhoeddus, mae hyn yn golygu bod angen i awdurdodau lleol roi trefniadau gweithio effeithiol ar waith gyda'r holl gwmnïau dŵr a’r trwyddedeion sy'n cyflenwi dŵr yfed yn eu hardaloedd.

Yn achos cyflenwadau dŵr preifat, mae'r awdurdodau lleol yn cyflawni asesiad risg ar bob cyflenwad dŵr preifat yn eu hardal (ac eithrio cyflenwadau ar gyfer aneddiadau domestig anfasnachol unigol). Mae hyn yn asesu'r perygl posibl i iechyd pobl. Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol hefyd am drefnu bod cyflenwadau dŵr yfed preifat yn eu hardaloedd yn cael eu monitro er mwyn canfod a ydynt yn cydymffurfio â'r safonau dŵr yfed.

Mae gan wefan Llywodraeth Cymru ddolenni i bob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.